RHAN 2CWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR
PENNOD 2GOFYNION CWRICWLWM
Cyffredinol
19Cyflwyniad
(1)
Maeʼr Bennod hon yn nodi gofynion cwricwlwm.
(2)
Mae cyfeiriadau yn y Bennod hon at gwricwlwm yn gyfeiriadau at gwricwlwm i unrhyw un oʼr canlynol—
(a)
disgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, ac eithrioʼr rheini dros yr oedran ysgol gorfodol;
(b)
disgyblion cofrestredig mewn ysgol feithrin a gynhelir;
(c)
plant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar eu cyfer.
(3)
Yn y Bennod hon—
(a)
mae cyfeiriadau at ddisgyblion yn gyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, ac eithrioʼr rheini dros yr oedran ysgol gorfodol;
(b)
mae cyfeiriadau at blant, mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, yn gyfeiriadau at blant y darperir yr addysg honno ar eu cyfer.