RHAN 2CWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR
PENNOD 1CYNLLUNIO A MABWYSIADU CWRICWLWM
Darpariaeth atodol
18Pŵer i wneud darpariaeth atodol ynghylch crynodebau cwricwlwm
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth—
(a)
ynghylch gwybodaeth sydd iʼw chynnwys mewn crynodeb o gwricwlwm mabwysiedig a gyhoeddir o dan y Rhan hon;
(b)
ynghylch cyhoeddi crynodeb o gwricwlwm mabwysiedig (gan gynnwys darpariaeth ynghylch sut y mae rhaid ei gyhoeddi, aʼr dyddiad erbyn pryd y mae rhaid ei gyhoeddi).