RHAN 2CWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR

PENNOD 1CYNLLUNIO A MABWYSIADU CWRICWLWM

Darpariaeth atodol

17Pŵer i wneud darpariaeth atodol ynghylch mabwysiadu a diwygio cwricwlwm

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)

camau sydd iʼw cymryd cyn i gwricwlwm gael ei fabwysiadu o dan y Rhan hon (gan gynnwys darpariaeth ynghylch camau sydd iʼw cymryd er mwyn penderfynu a yw cwricwlwm arfaethedig yn addas ar gyfer ei fabwysiadu);

(b)

y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid mabwysiadu cwricwlwm o dan y Rhan hon;

(c)

amgylchiadau ychwanegol y mae rhaid diwygio cwricwlwm mabwysiedig odanynt.