16Adolygu a diwygio cwricwlwmLL+C
(1)Rhaid i ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir—
(a)cadwʼr cwricwlwm mabwysiedig o dan adolygiad, a
(b)sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio ag adrannau 20 i 24F1....
(2)Wrth ystyried a yw’r cwricwlwm mabwysiedig yn parhau i gydymffurfio â’r gofynion y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b), rhaid i’r darparwr roi sylw i wybodaeth sy’n deillio o unrhyw drefniadau asesu a weithredir gan y darparwr o dan reoliadau a wneir o dan adran 56.
(3)Rhaid iʼr darparwr ddiwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig os ywʼr darparwr yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b).
(4)Caiff y darparwr ddiwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig hefyd os yw’r darparwr yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.
(5)Os ywʼr darparwr wedi mabwysiaduʼr cwricwlwm adran 13, a bod Gweinidogion Cymru yn diwygioʼr cwricwlwm hwnnw o dan adran 14, rhaid iʼr darparwr ystyried a ywʼn briodol diwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig o dan is-adran (4) er mwyn adlewyrchuʼr diwygiadau a wnaed o dan adran 14.
(6)Os yw’r darparwr yn diwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig, rhaid iʼr darparwr gyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm diwygiedig.
Diwygiadau Testunol
F1Geiriau yn a. 16(1)(b) wedi eu hepgor (1.9.2022) yn rhinwedd Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Deddfwriaeth Sylfaenol) 2022 (O.S. 2022/744), rhl. 1(2), Atod. 1 para. 1(5)
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I2A. 16 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.
I3A. 16 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)
I4A. 16 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(a)
I5A. 16 mewn grym ar 1.9.2025 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 8(a)
