RHAN 2CWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR

PENNOD 1CYNLLUNIO A MABWYSIADU CWRICWLWM

Addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir

15Mabwysiadu cwricwlwm

(1)

Rhaid i ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir—

(a)

mabwysiadu cwricwlwm i blant y darperir yr addysg honno ar eu cyfer (boed y cwricwlwm adran 13 neu gwricwlwm arall y maeʼr darparwr yn ystyried ei fod yn addas), a

(b)

cyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm mabwysiedig.

(2)

Ond ni chaniateir mabwysiadu cwricwlwm o dan yr adran hon oni bai ei fod yn cydymffurfio âʼr gofynion yn adrannau 20 i 24F1....