RHAN 2CWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR

PENNOD 1CYNLLUNIO A MABWYSIADU CWRICWLWM

Addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir

14Adolygu a diwygio cwricwlwm a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)

cadwʼr cwricwlwm adran 13 o dan adolygiad, a

(b)

sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio ag adrannau 20 i 24F1....

(2)

Rhaid i Weinidogion Cymru ddiwygioʼr cwricwlwm adran 13 os ydynt yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b).

(3)

Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygioʼr cwricwlwm adran 13 hefyd os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.

(4)

Os yw Gweinidogion Cymru yn diwygioʼr cwricwlwm adran 13, rhaid iddynt gyhoeddiʼr cwricwlwm diwygiedig.