RHAN 2CWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR
PENNOD 1CYNLLUNIO A MABWYSIADU CWRICWLWM
Addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir
13Dyletswydd Gweinidogion Cymru i gyhoeddi cwricwlwm
1
Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cwricwlwm (y “cwricwlwm adran 13”) y maent yn ystyried ei fod yn addas i blant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar eu cyfer.
2
Rhaid iʼr cwricwlwm adran 13 gydymffurfio âʼr gofynion yn adrannau 20 i 24, ac unrhyw ofyniad a osodir o dan adran 25.