RHAN 2CWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR

PENNOD 1CYNLLUNIO A MABWYSIADU CWRICWLWM

Ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelir

12Adolygu a diwygio cwricwlwm

(1)

Rhaid i bennaeth a chorff llywodraethu ysgol—

(a)

cadwʼr cwricwlwm mabwysiedig o dan adolygiad, a

(b)

sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion yn adrannau 20 i 24, ac unrhyw ofyniad a osodir o dan adran 25.

(2)

Wrth ystyried a ywʼr cwricwlwm mabwysiedig yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b), rhaid iʼr pennaeth aʼr corff llywodraethu roi sylw i wybodaeth syʼn deillio o unrhyw drefniadau asesu a weithredir ganddynt o dan reoliadau a wneir o dan adran 56.

(3)

Rhaid i bennaeth a chorff llywodraethu ysgol ddiwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig os ydynt yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b).

(4)

Caiff pennaeth a chorff llywodraethu ysgol ddiwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig hefyd os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.

(5)

Os yw pennaeth a chorff llywodraethu ysgol yn diwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig, rhaid iddynt gyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm diwygiedig.