RHAN 2LL+CCWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR

PENNOD 1LL+CCYNLLUNIO A MABWYSIADU CWRICWLWM

Ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelirLL+C

10Cynllunio cwricwlwmLL+C

(1)Rhaid i bennaeth ysgol gynllunio cwricwlwm i ddisgyblion yr ysgol.

(2)Rhaid iʼr cwricwlwm hwnnw gydymffurfio âʼr gofynion yn adrannau 20 i 24, ac unrhyw ofyniad a osodir o dan adran 25.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)

I2A. 10 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.

I3A. 10 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)

I4A. 10 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(a)

I5A. 10 mewn grym ar 1.9.2025 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 8(a)