ATODLEN 2MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL A DIDDYMIADAU

Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31)

35

(1)

Mae adran 69 (dyletswydd i sicrhau darpariaeth ddyladwy addysg grefyddol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)

Yn y pennawd, ar ôl “religious education” mewnosoder “: England”.

(3)

Yn is-adran (1)—

(a)

yn y geiriau o flaen paragraff (a), ar ôl “voluntary school” mewnosoder “in England”;

(b)

yn y geiriau ar ôl paragraff (b), hepgorer “or 101(1)(a)”.

(4)

Yn is-adran (2)—

(a)

yn y geiriau o flaen paragraff (a), hepgorer “or 101(1)(a)”;

(b)

ym mharagraff (a), ar ôl “voluntary schools” mewnosoder “in England”;

(c)

ym mharagraff (b), ar ôl “voluntary controlled schools” mewnosoder “in England”;

(d)

ym mharagraff (c), ar ôl “voluntary aided schools” mewnosoder “in England”.

(5)

Yn is-adran (3), ar ôl “voluntary school” mewnosoder “in England”.