ATODLEN 1CREFYDD, GWERTHOEDD A MOESEG
RHAN 2GWEITHREDU CWRICWLWM
I1I5I9I135Cymhwyso
Mae’r Rhan hon yn gymwys i’r addysgu a dysgu y mae rhaid ei sicrhau o dan adrannau 29(3)(b) a 30(6)(b) mewn cysylltiad ag elfen fandadol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.
I2I6I10I146Ysgolion cymunedol ac ysgolion sefydledig a gwirfoddol heb gymeriad crefyddol
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i—
a
ysgol gymunedol;
b
ysgol sefydledig neu wirfoddol heb gymeriad crefyddol.
2
Rhaid i’r addysgu a dysgu fod yn addysgu a dysgu y gwneir darpariaeth ar ei gyfer yn y cwricwlwm o dan baragraff 2(2) (darpariaeth sydd wedi ei chynllunio gan roi sylw i’r maes llafur cytunedig).
I3I7I11I157Ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol a reolir sydd â chymeriad crefyddol
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ysgol sefydledig, neu ysgol wirfoddol a reolir, sydd â chymeriad crefyddol.
2
Rhaid i’r addysgu a dysgu fod yn addysgu a dysgu y gwneir darpariaeth ar ei gyfer yn y cwricwlwm o dan baragraff 3(2) (darpariaeth sydd wedi ei chynllunio gan roi sylw i’r maes llafur cytunedig), ac eithrio yn achos disgybl y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddo.
3
Yn achos disgybl y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddo, rhaid i’r addysgu a dysgu fod yn addysgu a dysgu y gwneir darpariaeth ar ei gyfer yn y cwricwlwm o dan baragraff 3(3) (darpariaeth sy’n cyd-fynd â’r weithred ymddiriedolaeth etc).
4
Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i ddisgybl os yw rhiant i’r disgybl yn gofyn bod yr addysgu a dysgu yn addysgu a dysgu y gwneir darpariaeth ar ei gyfer yn y cwricwlwm o dan baragraff 3(3) (darpariaeth sy’n cyd-fynd â’r weithred ymddiriedolaeth etc).
I4I8I12I168Ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir sydd â chymeriad crefyddol
1
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ysgol wirfoddol a gynorthwyir sydd â chymeriad crefyddol.
2
Rhaid i’r addysgu a dysgu fod yn addysgu a dysgu y gwneir darpariaeth ar ei gyfer yn y cwricwlwm o dan baragraff 4(2) (darpariaeth sy’n cyd-fynd â’r weithred ymddiriedolaeth etc), ac eithrio yn achos disgybl y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddo.
3
Yn achos disgybl y mae is-baragraff (4) yn gymwys iddo, rhaid i’r addysgu a dysgu fod yn addysgu a dysgu y gwneir darpariaeth ar ei gyfer yn y cwricwlwm yn unol â pharagraff 4(3) (darpariaeth sydd wedi ei chynllunio gan roi sylw i’r maes llafur cytunedig).
4
Mae’r is-baragraff hwn yn gymwys i ddisgybl os yw rhiant i’r disgybl yn gofyn bod yr addysgu a dysgu yn addysgu a dysgu y gwneir darpariaeth ar ei gyfer yn y cwricwlwm yn unol â pharagraff 4(3) (darpariaeth sydd wedi ei chynllunio gan roi sylw i’r maes llafur cytunedig).