xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 1CREFYDD, GWERTHOEDD A MOESEG

RHAN 1CYNLLUNIO CWRICWLWM

Cymhwyso

1Mae’r Rhan hon yn gymwys at ddibenion adran 24(3) (darpariaeth ar gyfer addysgu a dysgu sy’n cwmpasu elfen fandadol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg).

Ysgolion cymunedol ac ysgolion sefydledig a gwirfoddol heb gymeriad crefyddol

2(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i—

(a)ysgol gymunedol;

(b)ysgol sefydledig neu wirfoddol heb gymeriad crefyddol.

(2)Rhaid bod y ddarpariaeth wedi ei chynllunio gan roi sylw i’r maes llafur cytunedig.

Ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol a reolir sydd â chymeriad crefyddol

3(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ysgol sefydledig, neu ysgol wirfoddol a reolir, sydd â chymeriad crefyddol.

(2)Rhaid bod y ddarpariaeth wedi ei chynllunio gan roi sylw i’r maes llafur cytunedig.

(3)Mae is-baragraff (4) yn gymwys yn yr achosion hynny pan na fo’r ddarpariaeth honno yn cyd-fynd—

(a)ag unrhyw ddarpariaethau yng ngweithred ymddiriedolaeth yr ysgol sy’n ymwneud ag addysgu a dysgu mewn cysylltiad ag elfen fandadol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, neu

(b)os nad oes unrhyw ddarpariaethau o’r fath, â daliadau’r grefydd neu’r enwad crefyddol a bennir mewn perthynas â’r ysgol mewn gorchymyn o dan adran 68A o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31).

(4)Yn yr achosion hynny, rhaid i’r cwricwlwm hefyd wneud darpariaeth ychwanegol ar gyfer addysgu a dysgu sy’n cwmpasu elfen fandadol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg sydd yn cyd-fynd â’r darpariaethau hynny neu (yn ôl y digwydd) y daliadau hynny.

Ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir sydd â chymeriad crefyddol

4(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i ysgol wirfoddol a gynorthwyir sydd â chymeriad crefyddol.

(2)Rhaid i’r ddarpariaeth gyd-fynd—

(a)ag unrhyw ddarpariaethau yng ngweithred ymddiriedolaeth yr ysgol sy’n ymwneud ag addysgu a dysgu mewn cysylltiad ag elfen fandadol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, neu

(b)os nad oes unrhyw ddarpariaethau o’r fath, â daliadau’r grefydd neu’r enwad crefyddol a bennir mewn perthynas â’r ysgol mewn gorchymyn o dan adran 68A o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31).

(3)Mae is-baragraff (4) yn gymwys yn yr achosion hynny pan na fo’r ddarpariaeth sy’n ofynnol o dan is-baragraff (2) yn ddarpariaeth sy’n cyd-fynd â’r maes llafur cytunedig.

(4)Yn yr achosion hynny, rhaid i’r cwricwlwm hefyd wneud darpariaeth ychwanegol ar gyfer addysgu a dysgu sy’n cwmpasu elfen fandadol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg y mae rhaid ei bod wedi ei chynllunio gan roi sylw i’r maes llafur cytunedig.