- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
This is the original version (as it was originally enacted).
Mae’r Ddeddf hon i’w chynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56).
Mae Atodlen 2 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol a diddymiadau.
(1)Caiff rheoliadau wneud—
(a)unrhyw ddarpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig neu ddarpariaeth ganlyniadol, neu
(b)unrhyw ddarpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed,
y mae Gweinidogion Cymru yn meddwl ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol at ddibenion rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon, neu o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth o’r fath.
(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) addasu’r Ddeddf hon neu unrhyw ddeddfiad arall (pryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir).
(1)Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon—
(a)yn arferadwy drwy offeryn statudol, a
(b)yn cynnwys pŵer i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.
(2)Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys—
(a)rheoliadau o dan adran 5, 31 neu 48, neu
(b)rheoliadau o dan adran 74 sy’n diwygio neu’n diddymu unrhyw ddeddfiad sydd wedi ei gynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol,
oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad.
(3)Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.
(4)Yn is-adran (2), ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw—
(a)Deddf gan Senedd Cymru;
(b)Mesur Cynulliad;
(c)Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys i’r canlynol—
(a)Cod yr Hyn sy’n Bwysig;
(b)y Cod Cynnydd.
(2)Cyn dyroddi neu ddiwygio’r Cod, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)ymgynghori â’r personau y maent yn meddwl eu bod yn briodol (os oes rhai), a
(b)gosod gerbron Senedd Cymru ddrafft o’r Cod arfaethedig (neu, yn achos diwygiadau, o’r Cod diwygiedig arfaethedig).
(3)Os yw’r Senedd, cyn diwedd y cyfnod o 40 niwrnod, yn penderfynu peidio â chymeradwyo drafft a osodwyd ger ei bron o dan is-adran (2)(b), ni chaiff Gweinidogion Cymru ddyroddi’r Cod neu’r Cod diwygiedig ar ffurf y drafft hwnnw (nac ar unrhyw ffurf arall, oni bai bod drafft o’r ffurf arall honno wedi ei osod gerbron y Senedd o dan is-adran (2)(b)).
(4)Os na wneir unrhyw benderfyniad o’r fath cyn diwedd y cyfnod hwnnw mewn cysylltiad â drafft a osodwyd gerbron y Senedd o dan is-adran (2)(b), rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r Cod (neu’r Cod diwygiedig) ar ffurf y drafft.
(5)O ran y cyfnod o 40 niwrnod, mewn perthynas â drafft—
(a)mae’n dechrau â’r diwrnod y gosodir y drafft gerbron y Senedd o dan is-adran (2)(b), a
(b)nid yw’n cynnwys unrhyw gyfnod y mae’r Senedd wedi ei diddymu neu y mae’r Senedd mewn toriad am fwy na phedwar diwrnod ynddo.
(6)Pan fo Gweinidogion Cymru yn ymgynghori ag unrhyw bersonau ynghylch Cod y cyfeirir ato yn is-adran (1) cyn i’r adran hon ddod i rym, mae’r ymgynghoriad hwnnw i’w drin fel pe bai’n cyflawni’r ddyletswydd yn is-adran (2)(a) mewn perthynas â’r Cod hwnnw.
(1)Cyn dyroddi neu ddiwygio’r Cod ACRh, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a)ymgynghori â’r personau y maent yn meddwl eu bod yn briodol (os oes rhai), a
(b)gosod gerbron Senedd Cymru ddrafft o’r Cod arfaethedig (neu, yn achos diwygiadau, o’r Cod diwygiedig arfaethedig).
(2)Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddyroddi’r Cod ACRh (neu’r Cod ACRh diwygiedig) oni bai bod drafft o’r Cod arfaethedig (neu o’r Cod diwygiedig arfaethedig)—
(a)wedi ei osod gerbron y Senedd o dan is-adran (1)(b), a
(b)wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad gan y Senedd.
(3)Os yw’r Senedd yn penderfynu cymeradwyo drafft a osodwyd ger ei bron o dan is-adran (1)(b), rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r Cod ACRh (neu’r Cod ACRh diwygiedig) ar ffurf y drafft.
(4)Pan fo Gweinidogion Cymru yn ymgynghori ag unrhyw bersonau ynghylch y Cod ACRh cyn i’r adran hon ddod i rym, mae’r ymgynghoriad hwnnw i’w drin fel pe bai’n cyflawni’r ddyletswydd yn is-adran (1)(a).
(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo darpariaeth a wneir gan neu o dan y Ddeddf hon—
(a)yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth gael ei rhoi i berson yn ysgrifenedig,
(b)yn ei gwneud yn ofynnol i hysbysiad ysgrifenedig gael ei roi i berson, neu
(c)yn ei gwneud yn ofynnol neu’n awdurdodi i gyfarwyddyd gael ei roi i berson.
(2)Caniateir rhoi’r wybodaeth, yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd i’r person—
(a)drwy ei danfon neu ei ddanfon i’r person,
(b)drwy ei gadael neu ei adael yng nghyfeiriad priodol y person,
(c)drwy ei hanfon neu ei anfon drwy’r post i gyfeiriad priodol y person, neu
(d)os yw’r amod yn is-adran (3) wedi ei fodloni, drwy ei hanfon neu ei anfon yn electronig i gyfeiriad priodol y person,
ac mae’r cyfeiriadau yn is-adrannau (4) i (6) at roi gwybodaeth neu hysbysiad neu gyfarwyddyd yn gyfeiriadau at ei rhoi neu ei roi yn un o’r ffyrdd a bennir ym mharagraffau (a) i (d).
(3)Mae’r amod yn yr is-adran hon wedi ei fodloni os yw’r person y mae’r wybodaeth, yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd i’w rhoi neu i’w roi iddo—
(a)wedi cytuno y caniateir ei hanfon neu ei anfon yn electronig, a
(b)wedi darparu cyfeiriad sy’n addas at y diben hwnnw.
(4)Caniateir rhoi’r wybodaeth, yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd i gorff corfforedig drwy ei rhoi neu ei roi i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw.
(5)Caniateir rhoi’r wybodaeth, yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd i bartneriaeth drwy ei rhoi neu ei roi—
(a)i bartner yn y bartneriaeth, neu
(b)i berson a chanddo’r rheolaeth dros fusnes y bartneriaeth neu sy’n rheoli busnes y bartneriaeth.
(6)Caniateir rhoi’r wybodaeth, yr hysbysiad neu’r cyfarwyddyd i unrhyw gorff anghorfforedig arall drwy ei rhoi neu ei roi i aelod o gorff llywodraethu’r corff anghorfforedig.
(7)At ddibenion is-adran (2)(b) ac (c) ac adran 13(1) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) (cyflwyno dogfennau), cyfeiriad priodol person yw—
(a)yn achos pennaeth, gyfeiriad yr ysgol;
(b)yn achos athro neu athrawes sydd â chyfrifoldeb am uned cyfeirio disgyblion, gyfeiriad yr uned cyfeirio disgyblion;
(c)yn achos corff corfforedig, gyfeiriad swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa’r corff;
(d)yn achos partneriaeth, neu unrhyw gorff anghorfforedig arall, gyfeiriad prif swyddfa’r bartneriaeth neu’r corff;
(e)yn achos person y rhoddir yr wybodaeth neu’r hysbysiad iddo gan ddibynnu ar unrhyw un o is-adrannau (4) i (6), gyfeiriad priodol y corff corfforedig, y bartneriaeth neu’r corff anghorfforedig arall o dan sylw;
(f)mewn unrhyw achos arall, gyfeiriad hysbys diwethaf y person.
(8)At ddibenion is-adran (2)(d) ac adran 13(2) o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, cyfeiriad priodol person yw’r cyfeiriad a ddarperir gan y person hwnnw yn unol ag is-adran (3)(b).
(9)Yn achos—
(a)cwmni sydd wedi ei gofrestru y tu allan i’r Deyrnas Unedig,
(b)partneriaeth sy’n cynnal busnes y tu allan i’r Deyrnas Unedig, ac
(c)unrhyw gorff anghorfforedig arall a chanddo swyddfeydd y tu allan i’r Deyrnas Unedig,
mae’r cyfeiriadau yn is-adran (7) at brif swyddfa yn cynnwys cyfeiriadau at brif swyddfa yn y Deyrnas Unedig (os oes un).
(1)Yn y Ddeddf hon—
(a)ystyr “ysgol a gynhelir” yw—
(i)ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru, neu
(ii)ysgol arbennig gymunedol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru, ac eithrio ysgol arbennig gymunedol a sefydlir mewn ysbyty;
(b)ystyr “ysgol feithrin a gynhelir” yw ysgol feithrin a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru ac nad yw’n ysgol arbennig.
(2)Yn y Ddeddf hon, mae i’r ymadroddion a ganlyn yr un ystyr ag a roddir i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol yn Neddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31)—
“ysgol arbennig gymunedol” (“community special school”)
“ysgol gymunedol” (“community school”)
“ysgol sefydledig” (“foundation school”)
“ysgol wirfoddol” (“voluntary school”)
“ysgol wirfoddol a gynorthwyir” (“voluntary aided school”)
“ysgol wirfoddol a reolir” (“voluntary controlled school”).
(1)Yn y Ddeddf hon—
(a)ystyr “addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir” yw addysg feithrin a ddarperir—
(i)gan berson ac eithrio corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir,
(ii)o dan drefniadau a wneir rhwng y person hwnnw ac awdurdod lleol yng Nghymru, drwy arfer dyletswydd yr awdurdod lleol i sicrhau addysg feithrin o dan adran 118 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p. 31), a
(iii)yn gydnabyddiaeth am y cymorth ariannol a ddarperir gan yr awdurdod o dan y trefniadau;
(b)ystyr “addysg feithrin” yw addysg lawnamser neu ran-amser sy’n addas i blant nad ydynt wedi cyrraedd yr oedran ysgol gorfodol;
(2)Yn y Ddeddf hon—
(a)mae darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir yn berson y mae awdurdod lleol wedi gwneud trefniadau ag ef drwy arfer dyletswydd yr awdurdod lleol i sicrhau addysg feithrin o dan adran 118 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, a
(b)mae awdurdod lleol sy’n sicrhau addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir yn awdurdod lleol sy’n gwneud trefniadau o’r disgrifiad hwnnw ar gyfer yr addysg honno.
(1)Yn y Ddeddf hon, mae i “uned cyfeirio disgyblion” yr ystyr a roddir i “pupil referral unit” gan adran 19A(2) o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) (darpariaeth eithriadol o addysg mewn unedau cyfeirio disgyblion neu mewn mannau eraill: Cymru).
(2)Yn y Ddeddf hon—
(a)ystyr yr awdurdod lleol, mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, yw’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr uned, a
(b)ystyr y pwyllgor rheoli, mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, yw’r pwyllgor (os oes un) a sefydlir i weithredu fel y pwyllgor rheoli ar gyfer yr uned o dan reoliadau a wneir o dan Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 1996.
(1)Yn y Ddeddf hon—
mae “addasu” (“modify”), mewn perthynas â deddfiad, yn cynnwys diwygio, diddymu neu ddirymu;
ystyr “dosbarth” (“class”), mewn perthynas â disgybl, yw—
y grŵp addysgu yr addysgir y disgybl ynddo yn rheolaidd, neu
pan fo dau neu ragor o grwpiau o’r fath, y grŵp a ddynodir gan bennaeth yr ysgol;
ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru.
(2)Mae i ymadroddion eraill yn y Ddeddf hon y diffinnir yr ymadroddion Saesneg cyfatebol iddynt yn Neddf Addysg 1996 (p. 56), neu y rhoddir ystyr iddynt ganddi, yr un ystyr ag a roddir i’r ymadroddion Saesneg cyfatebol hynny yn y Ddeddf honno.
(3)Ond pan fo ystyr wedi ei roi i ymadrodd at ddibenion y Ddeddf hon (naill ai gan y Ddeddf hon neu gan Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4)) sy’n wahanol i’r ystyr a roddir iddo at ddibenion Deddf Addysg 1996, mae’r ystyr honno yn gymwys at ddibenion y ddarpariaeth honno yn lle’r un a roddir at ddibenion Deddf 1996.
Mae’r Tabl isod yn rhestru darpariaethau yn y Ddeddf hon sy’n diffinio neu fel arall yn esbonio ymadroddion a ddefnyddir yn y Ddeddf hon.
Ymadrodd | Darpariaeth berthnasol |
---|---|
addasu (“modify”) | adran 82(1) |
addysg feithrin (“nursery education”) | adran 80(1)(b) |
addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir (“funded non-maintained nursery education”) | adran 80(1)(a) |
awdurdod lleol (“local authority”) (mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion) | adran 81(2)(a) |
awdurdod lleol sy’n sicrhau addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir (“local authority that secures funded non-maintained nursery education”) | adran 80(2)(b) |
blwyddyn ysgol berthnasol (“relevant school year”) | adran 31(5) |
Cod ACRh (“RSE Code”) | adran 8(1) |
Cod Cynnydd (“Progression Code”) | adran 7(1) |
Cod yr Hyn sy’n Bwysig (“What Matters Code”) | adran 6(1) |
cwmpasu (“encompass”) | |
(mewn perthynas â maes dysgu a phrofiad) | adran 6(2) a (3) |
(mewn perthynas ag elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb) | adran 8(2) a (3) |
cwricwlwm adran 13 (“section 13 curriculum”) | adran 13(1) |
cwricwlwm mabwysiedig (“adopted curriculum”) | |
(ym Mhennod 1 o Ran 2) | adran 9(3) |
(ym Mhenodau 3 a 4 o Ran 2) | adran 26(4) |
cwricwlwm perthnasol (“relevant curriculum”) (yn Rhan 4) | adran 56(5) |
cwrs astudio (“course of study”) | adrannau 25(5) a 68(2) |
cynnydd priodol (“appropriate progression”) | adran 7(2) a (3) |
darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir (“provider of funded non-maintained nursery education”) | adran 80(2)(a) |
dosbarth (“class”) | adran 82(1) |
elfen fandadol (“mandatory element”) | adran 3(2) |
maes dysgu a phrofiad (“area of learning and experience”) | adran 3(1) |
pedwar diben (“four purposes”) | adran 2(1) |
person perthnasol (“relevant person”) (yn Rhan 4) | adran 56(4) |
pwyllgor rheoli (“management committee”) (mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion) | adran 81(2)(b) |
rheoliadau (“regulations”) | adran 82(1) |
sgìl trawsgwricwlaidd mandadol (“mandatory cross-curricular skill”) | adran 4(1) |
trefniadau asesu (“assessment arrangements”) (yn Rhan 4) | adran 56(2) |
uned cyfeirio disgyblion (“pupil referral unit”) | adran 81(1) |
ysgol (“school”) | |
(ym Mhennod 1 o Ran 2) | adran 9(2) |
(ym Mhenodau 3 a 4 o Ran 2) | adran 26(3) |
ysgol a gynhelir (“maintained school”) | |
(yn gyffredinol) | adran 79(1)(a) |
(yn Rhan 5) | adran 58(2)(a) |
ysgol arbennig gymunedol (“community special school”) | adran 79(2) |
ysgol feithrin a gynhelir (“maintained nursery school”) | adran 79(1)(b) |
ysgol gymunedol (“community school”) | adran 79(2) |
ysgol sefydledig (“foundation school”) | adran 79(2) |
ysgol wirfoddol (“voluntary school”) | adran 79(2) |
ysgol wirfoddol a gynorthwyir (“voluntary aided school”) | adran 79(2) |
ysgol wirfoddol a reolir (“voluntary controlled school”) | adran 79(2) |
(1)Daw’r Rhan hon i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
(2)Daw’r darpariaethau eraill yn y Ddeddf hon i rym ar ba ddiwrnod neu ddiwrnodau bynnag y caiff Gweinidogion Cymru ei bennu neu eu pennu drwy orchymyn.
(3)Caiff Gweinidogion Cymru bennu diwrnodau gwahanol o dan is-adran (2) at ddibenion gwahanol.
(4)O ran gorchymyn o dan is-adran (2)—
(a)mae i’w wneud drwy offeryn statudol, a
(b)caiff wneud darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dyfodiad darpariaeth yn y Ddeddf hon i rym.
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: