RHAN 3CWRICWLWM AR GYFER DARPARIAETH EITHRIADOL O ADDYSG MEWN UNEDAU CYFEIRIO DISGYBLION NEU MEWN MANNAU ERAILL
Cyffredinol
49Cyflwyniad
1
Mae’r Rhan hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cwricwlwm ar gyfer addysg a ddarperir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) (darpariaeth eithriadol o addysg mewn unedau cyfeirio disgyblion neu mewn mannau eraill: Cymru).
2
Mae adrannau 50 i 52 yn gymwys i addysg a ddarperir mewn unedau cyfeirio disgyblion.
3
Mae adrannau 53 i 55 yn gymwys i addysg a ddarperir ac eithrio mewn unedau cyfeirio disgyblion.
4
Mae cyfeiriadau yn y Rhan hon at ddisgyblion, mewn perthynas ag uned cyfeirio disgyblion, yn gyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn yr uned, ac eithrio’r rheini sydd dros yr oedran ysgol gorfodol.