- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As enacted) - English
- Original (As enacted) - Welsh
Ar hyn o bryd nid oes unrhyw effeithiau heb eu gweithredu yn hysbys ar gyfer y Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021, PENNOD 4.
Efallai na fydd deddfwriaeth ddiwygiedig sydd ar y safle hwn yn gwbl gyfoes. Ar hyn o bryd mae unrhyw newidiadau neu effeithiau hysbys a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol wedi'u gwneud i destun y ddeddfwriaeth yr ydych yn edrych arni gan y tîm golygyddol. Gweler 'Cwestiynau Cyffredin' am fanylion ynglŷn â'r amserlenni ar gyfer nodi a chofnodi effeithiau newydd ar y safle hwn.
(1)Maeʼr Bennod hon yn nodi eithriadau iʼr dyletswyddau gweithredu cwricwlwm ym Mhennod 3.
(2)Mae adran 26 yn esbonio ystyr ymadroddion penodol a ddefnyddir yn y Bennod hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 37 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I2A. 37 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(c), Atod.
I3A. 37 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(c)
I4A. 37 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(c)
(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd o dan yr adran hon er mwyn ei gwneud yn bosibl gwneud gwaith datblygu neu gynnal arbrofion.
(2)Caniateir rhoi cyfarwyddyd mewn perthynas—
(a)ag ysgol a bennir yn y cyfarwyddyd;
(b)ag ysgolion o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd;
(c)ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd.
(3)Rhaid rhoi cyfarwyddyd a roddir mewn perthynas ag ysgol—
(a)i bennaeth a chorff llywodraethu’r ysgol, a
(b)i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol (oni bai bod yr ysgol yn ysgol sefydledig neu’n ysgol wirfoddol a gynorthwyir).
(4)Caiff cyfarwyddyd a roddir mewn perthynas ag ysgol, am gyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd—
(a)datgymhwyso adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas âʼr ysgol;
(b)darparu bod adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, yn gymwys mewn perthynas âʼr ysgol gydaʼr addasiadau a bennir yn y cyfarwyddyd.
(5)Caiff cyfarwyddyd a roddir mewn perthynas ag ysgol hefyd ei gwneud yn ofynnol—
(a)i bennaeth a chorff llywodraethuʼr ysgol, a
(b)iʼr awdurdod lleol syʼn cynnal yr ysgol (oni bai bod yr ysgol yn ysgol sefydledig neuʼn ysgol wirfoddol a gynorthwyir),
adrodd i Weinidogion Cymru am unrhyw faterion a bennir yn y cyfarwyddyd ar adegau neu ysbeidiau a bennir yn y cyfarwyddyd.
(6)Rhaid rhoi cyfarwyddyd a roddir mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir—
(a)i ddarparwr yr addysg, a
(b)i’r awdurdod lleol sy’n sicrhau’r addysg.
(7)Caiff cyfarwyddyd a roddir mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, am gyfnod a bennir yn y cyfarwyddyd—
(a)datgymhwyso adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas âʼr addysg honno;
(b)darparu bod adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, yn gymwys mewn perthynas âʼr addysg honno gydaʼr addasiadau a bennir yn y cyfarwyddyd.
(8)Caiff cyfarwyddyd a roddir mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir hefyd ei gwneud yn ofynnol—
(a)i ddarparwr yr addysg, a
(b)i’r awdurdod lleol syʼn sicrhau’r addysg,
adrodd i Weinidogion Cymru am unrhyw faterion a bennir yn y cyfarwyddyd ar adegau neu ysbeidiau a bennir yn y cyfarwyddyd.
(9)Rhaid i berson y rhoddir cyfarwyddyd iddo o dan yr adran hon gydymffurfio âʼr cyfarwyddyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I5A. 38 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I6A. 38 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(c), Atod.
I7A. 38 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(c)
I8A. 38 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(c)
(1)Dim ond os ywʼr amodau yn yr adran hon wedi eu bodloni y caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd o dan adran 38.
(2)Yr amod cyntaf yw bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y bydd y cwricwlwm a gaiff ei weithredu iʼr disgyblion neuʼr plant o ganlyniad iʼr cyfarwyddyd—
(a)yn galluogi pob disgybl neu blentyn i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,
(b)yn sicrhau addysgu a dysgu syʼn cynnig cynnydd priodol ar gyfer pob disgybl neu blentyn,
(c)yn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn pob disgybl neu blentyn,
(d)yn ystyried anghenion dysgu ychwanegol pob disgybl neu blentyn (os oes rhai), ac
(e)yn sicrhau addysgu a dysgu eang a chytbwys i bob disgybl neu blentyn.
(3)Yr ail amod, yn achos cyfarwyddyd syʼn ymwneud ag ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol a reolir, ysgol arbennig gymunedol neu ysgol feithrin a gynhelir, yw bod y cyfarwyddyd yn cael ei roi—
(a)ar gais a wneir gan y corff llywodraethu gyda chytundeb yr awdurdod lleol,
(b)ar gais a wneir gan yr awdurdod lleol gyda chytundeb y corff llywodraethu, neu
(c)ar gynnig a wneir gan Weinidogion Cymru gyda chytundeb y corff llywodraethu aʼr awdurdod lleol.
(4)Yr ail amod, yn achos cyfarwyddyd syʼn ymwneud ag ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir, yw bod y cyfarwyddyd yn cael ei roi—
(a)ar gais a wneir gan y corff llywodraethu, neu
(b)gyda chytundeb y corff llywodraethu.
(5)Yr ail amod, yn achos cyfarwyddyd syʼn ymwneud ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, yw bod y cyfarwyddyd yn cael ei roi—
(a)ar gais a wneir gan yr awdurdod lleol gyda chytundeb darparwr yr addysg, neu
(b)ar gynnig a wneir gan Weinidogion Cymru gyda chytundeb yr awdurdod lleol a darparwr yr addysg.
(6)Yn yr adran hon—
(a)mae cyfeiriadau at yr awdurdod lleol, mewn perthynas ag ysgol, yn gyfeiriadau at yr awdurdod lleol syʼn cynnal yr ysgol;
(b)mae cyfeiriadau at yr awdurdod lleol, mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, yn gyfeiriadau at yr awdurdod lleol syʼn sicrhau’r addysg.
Gwybodaeth Cychwyn
I9A. 39 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I10A. 39 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(c), Atod.
I11A. 39 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(c)
I12A. 39 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(c)
(1)Maeʼr adran hon yn gymwys mewn perthynas â chyfarwyddyd a roddir o dan adran 38.
(2)Rhaid rhoiʼr cyfarwyddyd yn ysgrifenedig.
(3)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddiʼr cyfarwyddyd.
(4)Pan foʼr cyfarwyddyd yn ymwneud ag ysgol—
(a)rhaid i bennaeth a chorff llywodraethu’r ysgol gyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm a gaiff ei weithredu o ganlyniad iʼr cyfarwyddyd, a
(b)nid yw adran 12 yn gymwys mewn perthynas âʼr ysgol ond iʼr graddau y mae arfer swyddogaethau o dan yr adran honno yn gydnaws âʼr cyfarwyddyd.
(5)Pan foʼr cyfarwyddyd yn ymwneud ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir—
(a)rhaid i ddarparwr yr addysg gyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm a gaiff ei weithredu o ganlyniad iʼr cyfarwyddyd, a
(b)nid yw adran 16 yn gymwys mewn perthynas âʼr addysg ond iʼr graddau y mae arfer swyddogaethau o dan yr adran honno yn gydnaws âʼr cyfarwyddyd.
Gwybodaeth Cychwyn
I13A. 40 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I14A. 40 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(c), Atod.
I15A. 40 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(c)
I16A. 40 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(c)
(1)Caiff y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol a ddisgrifir mewn cynllun datblygu unigol a lunnir neu a gynhelir gan awdurdod lleol o dan Ran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol aʼr Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (dccc 2) gynnwys darpariaeth—
(a)syʼn datgymhwyso adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â disgybl;
(b)syʼn cymhwyso adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â disgybl gydaʼr addasiadau a bennir yn y cynllun;
(c)syʼn datgymhwyso adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â phlentyn;
(d)syʼn cymhwyso adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â phlentyn gydaʼr addasiadau a bennir yn y cynllun.
(2)Caiff y ddarpariaeth addysgol arbennig a bennir mewn cynllun AIG o dan adran 37 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014 (p. 6) (cynlluniau addysg, iechyd a gofal) gynnwys darpariaeth—
(a)syʼn datgymhwyso adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â disgybl;
(b)syʼn cymhwyso adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â disgybl gydaʼr addasiadau a bennir yn y cynllun;
(c)syʼn datgymhwyso adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â phlentyn;
(d)syʼn cymhwyso adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn perthynas â phlentyn gydaʼr addasiadau a bennir yn y cynllun.
(3)Ond ni chaiff cynllun datblygu unigol neu gynllun AIG gynnwys darpariaeth y cyfeirir ati yn is-adran (1) neu (2) oni bai bod yr awdurdod lleol wedi ei fodloni y bydd y cwricwlwm a gaiff ei weithredu iʼr plentyn o ganlyniad iʼr datgymhwyso neuʼr addasu—
(a)yn galluogiʼr disgybl neuʼr plentyn i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,
(b)yn sicrhau addysgu a dysgu syʼn cynnig cynnydd priodol ar gyfer y disgybl neuʼr plentyn,
(c)yn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn y disgybl neuʼr plentyn, a
(d)yn sicrhau addysgu a dysgu eang a chytbwys iʼr disgybl neuʼr plentyn.
(4)Caiff rheoliadau bennu amodau pellach y mae rhaid eu bodloni cyn y caiff cynllun datblygu unigol neu gynllun AIG gynnwys darpariaeth y cyfeirir ati yn is-adran (1) neu (2).
(5)Yn yr adran hon, maeʼr cyfeiriad at yr awdurdod lleol yn gyfeiriad at yr awdurdod lleol syʼn llunio neuʼn cynnal y cynllun datblygu unigol neu syʼn sicrhau bod y cynllun AIG yn cael ei lunio, ei ddiwygio neu ei ddisodli.
Gwybodaeth Cychwyn
I17A. 41 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I18A. 41 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(c), Atod.
I19A. 41 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(c)
I20A. 41 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(c)
(1)Caiff rheoliadau alluogi pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir i benderfynu, mewn achosion neu o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau—
(a)bod adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, iʼw datgymhwyso mewn perthynas â disgybl cofrestredig yn yr ysgol yn ystod y cyfnod a bennir yn y penderfyniad, neu
(b)bod adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, iʼw cymhwyso mewn perthynas â disgybl cofrestredig yn yr ysgol, yn ystod y cyfnod a bennir yn y penderfyniad, gydaʼr addasiadau a bennir yn y penderfyniad.
(2)Caiff rheoliadau alluogi darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir i benderfynu, mewn achosion neu o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau—
(a)bod adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, iʼw datgymhwyso, yn ystod y cyfnod a bennir yn y penderfyniad, mewn perthynas â phlentyn y darperir yr addysg ar ei gyfer, neu
(b)bod adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, iʼw cymhwyso mewn perthynas â phlentyn oʼr fath, yn ystod y cyfnod a bennir yn y penderfyniad, gydaʼr addasiadau a bennir yn y penderfyniad.
(3)Os gwneir rheoliadau o dan yr adran hon, rhaid iddynt ddarparu na chaiff person wneud penderfyniad o dan y rheoliadau oni bai ei fod wedi ei fodloni y bydd y cwricwlwm a gaiff ei weithredu iʼr disgybl neuʼr plentyn o ganlyniad iʼr penderfyniad—
(a)yn galluogiʼr disgybl neuʼr plentyn i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben,
(b)yn sicrhau addysgu a dysgu syʼn cynnig cynnydd priodol ar gyfer pob disgybl neu blentyn,
(c)yn addas ar gyfer oedran, gallu a dawn y disgybl neuʼr plentyn,
(d)yn ystyried anghenion dysgu ychwanegol y disgybl neuʼr plentyn (os oes rhai), ac
(e)yn sicrhau addysgu a dysgu eang a chytbwys iʼr disgybl neuʼr plentyn.
(4)Caiff rheoliadau a wneir o dan yr adran hon bennu amodau pellach y mae rhaid eu bodloni cyn y caniateir i benderfyniad gael ei wneud o dan y rheoliadau.
Gwybodaeth Cychwyn
I21A. 42 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I22A. 42 mewn grym ar 14.6.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 3(a)
I23A. 42 mewn grym ar 1.9.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/652, ergl. 4(b)
(1)Maeʼr adran hon yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch rheoliadau a wneir o dan adran 42.
(2)Ni chaiff y rheoliadau ganiatáu i benderfyniad gael ei wneud o dan y rheoliadau ar y sail bod gan ddisgybl neu blentyn anghenion dysgu ychwanegol neu y gall fod ganddo anghenion dysgu ychwanegol (gweler, yn hytrach, adran 41).
(3)Rhaid iʼr rheoliadau bennu bod cyfnod gweithredol penderfyniad a wneir o dan y rheoliadau naill ai—
(a)yn gyfnod penodol a bennir yn y penderfyniad nad ywʼn hwy na 6 mis, neu
(b)yn gyfnod y mae rhaid dod ag ef i ben (yn unol âʼr rheoliadau) heb fod yn hwyrach na 6 mis i’w ddechrau.
(4)Ond caiff y rheoliadau bennu cyfnod gweithredol gwahanol ar gyfer penderfyniad os yw’r cyfnod gweithredol hwnnw i ddechrau—
(a)yn union ar ôl diwedd cyfnod gweithredol penderfyniad blaenorol, neu
(b)cyn diwedd cyfnod, a bennir yn y rheoliadau, sy’n dechrau â diwedd cyfnod gweithredol penderfyniad blaenorol.
(5)Caiff y rheoliadau alluogi person syʼn gwneud penderfyniad o dan y rheoliadau—
(a)i amrywioʼr penderfyniad, ac eithrio mewn perthynas âʼi gyfnod gweithredol, neu
(b)i ddirymuʼr penderfyniad.
(6)Caiff y rheoliadau bennu—
(a)ym mha achosion neu o dan ba amgylchiadau y caniateir amrywio neu ddirymu penderfyniad a wneir o dan y rheoliadau;
(b)amodau y mae rhaid eu bodloni cyn y caniateir amrywio neu ddirymu penderfyniad a wneir o dan y rheoliadau.
(7)Yn yr adran hon, ystyr “cyfnod gweithredol” penderfyniad ywʼr cyfnod y maeʼr penderfyniad yn cael effaith ar ei gyfer.
Gwybodaeth Cychwyn
I24A. 43 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I25A. 43 mewn grym ar 14.6.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 3(a)
I26A. 43 mewn grym ar 1.9.2022 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym gan O.S. 2022/652, ergl. 4(b)
(1)Rhaid i bennaeth syʼn gwneud, yn amrywio neuʼn dirymu penderfyniad o dan reoliadau a wneir o dan adran 42 roiʼr wybodaeth a ddisgrifir yn is-adrannau (3) a (4), yn ysgrifenedig, i—
(a)y disgybl y maeʼr penderfyniad yn ymwneud ag ef,
(b)rhiant y disgybl,
(c)corff llywodraethuʼr ysgol, a
(d)yr awdurdod lleol syʼn cynnal yr ysgol.
(2)Rhaid i ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir syʼn gwneud, yn amrywio neuʼn dirymu penderfyniad o dan reoliadau a wneir o dan adran 42 roiʼr wybodaeth a ddisgrifir yn is-adrannau (3) a (4), yn ysgrifenedig, i—
(a)rhiant y plentyn y maeʼr penderfyniad yn ymwneud ag ef, a
(b)yr awdurdod lleol syʼn sicrhau’r addysg.
(3)Yr wybodaeth yw—
(a)y ffaith bod y penderfyniad wedi ei wneud, ei amrywio neu ei ddirymu;
(b)effaith y penderfyniad, yr amrywiad neuʼr dirymiad;
(c)y rhesymau dros wneud, amrywio neu ddirymuʼr penderfyniad;
(d)gwybodaeth am—
(i)yr hawl i wneud apêl o dan adran 45 (yn achos penderfyniad syʼn ymwneud â disgybl);
(ii)yr hawl i wneud apêl o dan adran 46 (yn achos penderfyniad syʼn ymwneud ag unrhyw blentyn arall).
(4)Pan fo penderfyniad wedi ei wneud neu ei amrywio, rhaid iʼr wybodaeth hefyd gynnwys—
(a)disgrifiad oʼr ddarpariaeth a wneir ar gyfer addysg y disgybl neuʼr plentyn yn ystod y cyfnod a bennir yn y penderfyniad;
(b)disgrifiad oʼr ffordd y maeʼr pennaeth neuʼr darparwr yn bwriadu sicrhau bod y cwricwlwm mabwysiedig yn cael ei weithredu iʼr disgybl neuʼr plentyn ar ddiwedd y cyfnod hwnnw.
(5)Nid ywʼr ddyletswydd yn is-adran (1)(a) yn gymwys os ywʼr pennaeth yn ystyried nad oes gan y disgybl y galluedd i ddeall—
(a)yr wybodaeth a roddid, neu
(b)yr hyn y maeʼn ei olygu i arfer yr hawl a roddir gan adran 45.
Gwybodaeth Cychwyn
I27A. 44 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I28A. 44 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.
I29A. 44 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)
I30A. 44 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)
(1)Maeʼr adran hon yn gymwys—
(a)pan fo pennaeth ysgol yn gwneud, yn amrywio neuʼn dirymu penderfyniad syʼn ymwneud â disgybl o dan reoliadau a wneir o dan adran 42, neu
(b)pan fo disgybl, neu riant disgybl, yn gofyn i bennaeth ysgol wneud penderfyniad o dan y rheoliadau hynny mewn perthynas âʼr disgybl, ond pan na fo penderfyniad wedi ei wneud.
(2)Caiff pob un oʼr canlynol apelio i gorff llywodraethuʼr ysgol—
(a)y disgybl;
(b)rhiant y disgybl.
(3)Nid yw is-adran (2)(a) yn gymwys os yw’r corff llywodraethu yn ystyried nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr hyn y mae’n ei olygu i arfer yr hawl a roddir gan yr adran hon.
(4)Os gwneir apêl o dan yr adran hon, caiff y corff llywodraethu—
(a)cyfarwyddoʼr pennaeth, yn ysgrifenedig, i gymryd y camau gweithredu y maeʼn ystyried eu bod yn briodol mewn cysylltiad â’r penderfyniad y cyfeirir ato yn is-adran (1)(a) neu’r cais y cyfeirir ato yn is-adran (1)(b), neu
(b)hysbysu’r pennaeth, yn ysgrifenedig, na roddir unrhyw gyfarwyddyd o’r fath.
(5)Rhaid iʼr corff llywodraethu roi hysbysiad ysgrifenedig oʼi benderfyniad—
(a)iʼr disgybl, a
(b)i riant y disgybl.
(6)Nid yw is-adran (5)(a) yn gymwys os ywʼr corff llywodraethu yn ystyried nad oes gan y disgybl o dan sylw y galluedd i ddeall yr wybodaeth a roddid.
(7)Rhaid iʼr pennaeth gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (4).
(8)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad ag apelau o dan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I31A. 45 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I32A. 45 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.
I33A. 45 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)
I34A. 45 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)
(1)Maeʼr adran hon yn gymwys—
(a)pan fo darparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir yn gwneud, yn amrywio neuʼn dirymu penderfyniad o dan reoliadau a wneir o dan adran 42 mewn perthynas â phlentyn y darperir yr addysg ar ei gyfer, neu
(b)pan fo rhiant plentyn y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar ei gyfer yn gofyn i ddarparwr yr addysg wneud penderfyniad o dan y rheoliadau hynny mewn perthynas âʼr plentyn, ond pan na fo penderfyniad wedi ei wneud.
(2)Caiff rhiant y plentyn apelio iʼr awdurdod lleol sydd wedi sicrhau’r addysg.
(3)Os gwneir apêl o dan yr adran hon, caiff yr awdurdod lleol—
(a)cyfarwyddoʼr darparwr, yn ysgrifenedig, i gymryd y camau gweithredu y maeʼr awdurdod lleol yn ystyried eu bod yn briodol mewn cysylltiad â’r penderfyniad y cyfeirir ato yn is-adran (1)(a) neu’r cais y cyfeirir ato yn is-adran (1)(b), neu
(b)hysbysu’r darparwr, yn ysgrifenedig, na roddir unrhyw gyfarwyddyd o’r fath.
(4)Rhaid iʼr awdurdod lleol roi hysbysiad ysgrifenedig oʼi benderfyniad i riant y plentyn.
(5)Rhaid iʼr darparwr gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (3).
(6)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach mewn cysylltiad ag apelau o dan yr adran hon.
Gwybodaeth Cychwyn
I35A. 46 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I36A. 46 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.
I37A. 46 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)
I38A. 46 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)
Nid yw adrannau 27, 28, 29 a 30 yn gymwys mewn perthynas â disgyblion y mae trefniadau wedi eu gwneud ar eu cyfer o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) (gweler, yn hytrach, Ran 3).
Gwybodaeth Cychwyn
I39A. 47 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I40A. 47 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.
I41A. 47 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)
I42A. 47 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)
(1)Caiff rheoliadau—
(a)datgymhwyso adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn achosion neu o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau;
(b)darparu bod adrannau 27, 28, 29 a 30, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, yn gymwys gydaʼr addasiadau a bennir yn y rheoliadau mewn achosion neu o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau;
(c)datgymhwyso adrannau 34, 35 a 36 neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, mewn achosion neu o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau;
(d)darparu bod adrannau 34, 35 a 36, neu unrhyw un neu ragor oʼr adrannau hynny, yn gymwys gydaʼr addasiadau a bennir yn y rheoliadau mewn achosion neu o dan amgylchiadau a bennir yn y rheoliadau.
(2)Caiff rheoliadau o dan yr adran hon roi disgresiwn i berson.
Gwybodaeth Cychwyn
I43A. 48 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I44A. 48 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(d), Atod.
I45A. 48 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(d)
I46A. 48 mewn grym ar 1.9.2024 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 7(e)
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Geographical Extent: Indicates the geographical area that this provision applies to. For further information see ‘Frequently Asked Questions’.
Show Timeline of Changes: See how this legislation has or could change over time. Turning this feature on will show extra navigation options to go to these specific points in time. Return to the latest available version by using the controls above in the What Version box.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
This timeline shows the different points in time where a change occurred. The dates will coincide with the earliest date on which the change (e.g an insertion, a repeal or a substitution) that was applied came into force. The first date in the timeline will usually be the earliest date when the provision came into force. In some cases the first date is 01/02/1991 (or for Northern Ireland legislation 01/01/2006). This date is our basedate. No versions before this date are available. For further information see the Editorial Practice Guide and Glossary under Help.
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: