Addasiadau (ddim yn newid testun)
C1Rhn. 2 modified (dd.) (13.6.2022) by Gorchymyn Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Cychwyn Rhif 3 a Darpariaeth Drosiannol) 2022 (O.S. 2022/652), ergl. 2
(1)Maeʼr Bennod hon yn nodi gofynion cwricwlwm.
(2)Mae cyfeiriadau yn y Bennod hon at gwricwlwm yn gyfeiriadau at gwricwlwm i unrhyw un oʼr canlynol—
(a)disgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, ac eithrioʼr rheini dros yr oedran ysgol gorfodol;
(b)disgyblion cofrestredig mewn ysgol feithrin a gynhelir;
(c)plant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar eu cyfer.
(3)Yn y Bennod hon—
(a)mae cyfeiriadau at ddisgyblion yn gyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, ac eithrioʼr rheini dros yr oedran ysgol gorfodol;
(b)mae cyfeiriadau at blant, mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, yn gyfeiriadau at blant y darperir yr addysg honno ar eu cyfer.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I2A. 19 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.
I3A. 19 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)
Rhaid iʼr cwricwlwm alluogi disgyblion, neu blant, i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben.
Gwybodaeth Cychwyn
I4A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I5A. 20 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.
I6A. 20 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)
Rhaid iʼr cwricwlwm ddarparu ar gyfer cynnydd priodol.
Gwybodaeth Cychwyn
I7A. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I8A. 21 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.
I9A. 21 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)
Rhaid iʼr cwricwlwm fod yn addas i ddisgyblion, neu blant, o oedrannau, galluoedd a doniau gwahanol.
Gwybodaeth Cychwyn
I10A. 22 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I11A. 22 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.
I12A. 22 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)
Rhaid iʼr cwricwlwm fod yn eang ac yn gytbwys.
Gwybodaeth Cychwyn
I13A. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I14A. 23 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.
I15A. 23 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)
(1)Rhaid iʼr cwricwlwm wneud darpariaeth ar gyfer addysgu a dysgu—
(a)syʼn cwmpasu pob un oʼr meysydd dysgu a phrofiad, gan gynnwys yr elfennau mandadol o fewn y meysydd dysgu a phrofiad, a
(b)syʼn datblyguʼr sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.
(2)Rhaid iʼr ddarpariaeth ar gyfer addysgu a dysgu sy’n cwmpasu elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb fod yn briodol yn ddatblygiadol i ddisgyblion, neu blant.
(3)Rhaid i’r ddarpariaeth ar gyfer addysgu a dysgu sy’n cwmpasu elfen fandadol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg gyd-fynd â Rhan 1 o Atodlen 1, ac eithrio pan fo is-adran (4) yn gymwys.
(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r ddarpariaeth ar gyfer addysgu a dysgu wedi ei gwneud—
(a)ar gyfer disgyblion mewn dosbarth y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion ynddo yn iau na’r oedran ysgol gorfodol ar ddechrau’r flwyddyn ysgol;
(b)ar gyfer plant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar eu cyfer.
(5)Os ywʼr cwricwlwm yn gymwys i ddisgyblion sydd wedi cwblhauʼr flwyddyn ysgol y cyrhaeddodd y rhan fwyaf oʼr disgyblion yn eu dosbarth 14 oed ynddi, rhaid iddo gynnig iʼr disgyblion hynny ddewis o addysgu a dysgu o fewn pob maes dysgu a phrofiad.
Gwybodaeth Cychwyn
I16A. 24 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I17A. 24(1)(2)(3)(4) mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(a), Atod.
I18A. 24(1)(2)(3)(4) mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(a)
(1)Caiff rheoliadau bennu gofynion pellach y mae rhaid i gwricwlwm ar gyfer ysgol a gynhelir gydymffurfio â hwy iʼr graddau y maeʼn gymwys i ddisgyblion o fewn is-adran (2).
(2)Y disgyblion ywʼr rheini sydd wedi cwblhauʼr flwyddyn ysgol y cyrhaeddodd y rhan fwyaf oʼr disgyblion yn eu dosbarth 14 oed ynddi, ond sy’n dal i fod o’r oedran ysgol gorfodol.
(3)Caiff y rheoliadau, ymhlith pethau eraill, bennu darpariaeth—
(a)y mae rhaid ei gwneud mewn cwricwlwm;
(b)na chaniateir ei gwneud mewn cwricwlwm.
(4)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth drwy gyfeirio at gyrsiau astudio (er enghraifft, er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gwricwlwm wneud darpariaeth ar gyfer isafswm nifer o gyrsiau astudio, neu ar gyfer cyrsiau astudio a bennir yn y rheoliadau).
(5)Yn yr adran hon, ystyr “cwrs astudio” yw cwrs addysg neu hyfforddiant—
(a)sy’n arwain at ffurf ar gymhwyster neu set o ffurfiau ar gymhwyster a gymeradwyir o dan Ran 4 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 (dccc 5) neu a ddynodir o dan Ran 5 o’r Ddeddf honno, neu
(b)a ddynodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 34(8) o’r Ddeddf honno.
Gwybodaeth Cychwyn
I19A. 25 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 84(2)
I20A. 25 mewn grym ar 1.9.2022 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 5(1)(2)(b), Atod.
I21A. 25 mewn grym ar 1.9.2023 at ddibenion penodedig gan O.S. 2022/652, ergl. 6(1)(2)(b)