RHAN 2CWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR
PENNOD 2GOFYNION CWRICWLWM
Gofynion cwricwlwm
20Y pedwar diben
Rhaid iʼr cwricwlwm alluogi disgyblion, neu blant, i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben.
21Cynnydd
Rhaid iʼr cwricwlwm ddarparu ar gyfer cynnydd priodol.
22Addasrwydd
Rhaid iʼr cwricwlwm fod yn addas i ddisgyblion, neu blant, o oedrannau, galluoedd a doniau gwahanol.
23Ehangder a chydbwysedd
Rhaid iʼr cwricwlwm fod yn eang ac yn gytbwys.
24Meysydd dysgu a phrofiad a sgiliau trawsgwricwlaidd
1
Rhaid iʼr cwricwlwm wneud darpariaeth ar gyfer addysgu a dysgu—
a
syʼn cwmpasu pob un oʼr meysydd dysgu a phrofiad, gan gynnwys yr elfennau mandadol o fewn y meysydd dysgu a phrofiad, a
b
syʼn datblyguʼr sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol.
2
Rhaid iʼr ddarpariaeth ar gyfer addysgu a dysgu sy’n cwmpasu elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb fod yn briodol yn ddatblygiadol i ddisgyblion, neu blant.
3
Rhaid i’r ddarpariaeth ar gyfer addysgu a dysgu sy’n cwmpasu elfen fandadol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg gyd-fynd â Rhan 1 o Atodlen 1, ac eithrio pan fo is-adran (4) yn gymwys.
4
Mae’r is-adran hon yn gymwys pan fo’r ddarpariaeth ar gyfer addysgu a dysgu wedi ei gwneud—
a
ar gyfer disgyblion mewn dosbarth y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion ynddo yn iau na’r oedran ysgol gorfodol ar ddechrau’r flwyddyn ysgol;
b
ar gyfer plant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar eu cyfer.
5
Os ywʼr cwricwlwm yn gymwys i ddisgyblion sydd wedi cwblhauʼr flwyddyn ysgol y cyrhaeddodd y rhan fwyaf oʼr disgyblion yn eu dosbarth 14 oed ynddi, rhaid iddo gynnig iʼr disgyblion hynny ddewis o addysgu a dysgu o fewn pob maes dysgu a phrofiad.
25Pŵer i osod gofynion pellach cwricwlwm
1
Caiff rheoliadau bennu gofynion pellach y mae rhaid i gwricwlwm ar gyfer ysgol a gynhelir gydymffurfio â hwy iʼr graddau y maeʼn gymwys i ddisgyblion o fewn is-adran (2).
2
Y disgyblion ywʼr rheini sydd wedi cwblhauʼr flwyddyn ysgol y cyrhaeddodd y rhan fwyaf oʼr disgyblion yn eu dosbarth 14 oed ynddi, ond sy’n dal i fod o’r oedran ysgol gorfodol.
3
Caiff y rheoliadau, ymhlith pethau eraill, bennu darpariaeth—
a
y mae rhaid ei gwneud mewn cwricwlwm;
b
na chaniateir ei gwneud mewn cwricwlwm.
4
Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth drwy gyfeirio at gyrsiau astudio (er enghraifft, er mwyn ei gwneud yn ofynnol i gwricwlwm wneud darpariaeth ar gyfer isafswm nifer o gyrsiau astudio, neu ar gyfer cyrsiau astudio a bennir yn y rheoliadau).
5
Yn yr adran hon, ystyr “cwrs astudio” yw cwrs addysg neu hyfforddiant—
a
sy’n arwain at ffurf ar gymhwyster neu set o ffurfiau ar gymhwyster a gymeradwyir o dan Ran 4 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 (dccc 5) neu a ddynodir o dan Ran 5 o’r Ddeddf honno, neu
b
a ddynodir gan Weinidogion Cymru o dan adran 34(8) o’r Ddeddf honno.