xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2CWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR

PENNOD 1CYNLLUNIO A MABWYSIADU CWRICWLWM

Cyffredinol

9Cyflwyniad a dehongli

(1)Maeʼr Bennod hon yn gwneud darpariaeth ynghylch cynllunio a mabwysiadu cwricwlwm i unrhyw un o’r canlynol—

(a)disgyblion cofrestredig mewn ysgol a gynhelir, ac eithrioʼr rheini dros yr oedran ysgol gorfodol;

(b)disgyblion cofrestredig mewn ysgol feithrin a gynhelir;

(c)plant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar eu cyfer.

(2)Mae cyfeiriadau yn y Bennod hon at ysgol yn gyfeiriadau—

(a)at ysgol a gynhelir, neu

(b)at ysgol feithrin a gynhelir.

(3)Yn y Bennod hon—

(a)mae cyfeiriadau at ddisgyblion, mewn perthynas ag ysgol, yn gyfeiriadau at ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol, ac eithrioʼr rheini dros yr oedran ysgol gorfodol;

(b)mae cyfeiriadau at blant, mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, yn gyfeiriadau at blant y darperir yr addysg honno ar eu cyfer;

(c)mae cyfeiriadau at y cwricwlwm mabwysiedig, mewn perthynas ag ysgol, yn gyfeiriadau at y cwricwlwm a fabwysiedir o dan adran 11 gan bennaeth a chorff llywodraethuʼr ysgol (ac os caiff y cwricwlwm hwnnw ei ddiwygio o dan adran 12, at y cwricwlwm fel yʼi diwygir);

(d)mae cyfeiriadau at y cwricwlwm mabwysiedig, mewn perthynas ag addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, yn gyfeiriadau at y cwricwlwm a fabwysiedir o dan adran 15 gan ddarparwr yr addysg (ac os caiff y cwricwlwm hwnnw ei ddiwygio o dan adran 16, at y cwricwlwm fel yʼi diwygir).

Ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelir

10Cynllunio cwricwlwm

(1)Rhaid i bennaeth ysgol gynllunio cwricwlwm i ddisgyblion yr ysgol.

(2)Rhaid iʼr cwricwlwm hwnnw gydymffurfio âʼr gofynion yn adrannau 20 i 24, ac unrhyw ofyniad a osodir o dan adran 25.

11Mabwysiadu cwricwlwm

(1)Rhaid i bennaeth a chorff llywodraethu ysgol—

(a)mabwysiaduʼr cwricwlwm a gynllunnir o dan adran 10 fel y cwricwlwm i ddisgyblion yr ysgol, a

(b)cyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm mabwysiedig.

(2)Ond ni chaniateir mabwysiadu cwricwlwm o dan yr adran hon oni bai ei fod yn cydymffurfio âʼr gofynion yn adrannau 20 i 24, ac unrhyw ofyniad a osodir o dan adran 25.

12Adolygu a diwygio cwricwlwm

(1)Rhaid i bennaeth a chorff llywodraethu ysgol—

(a)cadwʼr cwricwlwm mabwysiedig o dan adolygiad, a

(b)sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion yn adrannau 20 i 24, ac unrhyw ofyniad a osodir o dan adran 25.

(2)Wrth ystyried a ywʼr cwricwlwm mabwysiedig yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b), rhaid iʼr pennaeth aʼr corff llywodraethu roi sylw i wybodaeth syʼn deillio o unrhyw drefniadau asesu a weithredir ganddynt o dan reoliadau a wneir o dan adran 56.

(3)Rhaid i bennaeth a chorff llywodraethu ysgol ddiwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig os ydynt yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b).

(4)Caiff pennaeth a chorff llywodraethu ysgol ddiwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig hefyd os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.

(5)Os yw pennaeth a chorff llywodraethu ysgol yn diwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig, rhaid iddynt gyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm diwygiedig.

Addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir

13Dyletswydd Gweinidogion Cymru i gyhoeddi cwricwlwm

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cwricwlwm (y “cwricwlwm adran 13”) y maent yn ystyried ei fod yn addas i blant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar eu cyfer.

(2)Rhaid iʼr cwricwlwm adran 13 gydymffurfio âʼr gofynion yn adrannau 20 i 24, ac unrhyw ofyniad a osodir o dan adran 25.

14Adolygu a diwygio cwricwlwm a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cadwʼr cwricwlwm adran 13 o dan adolygiad, a

(b)sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio ag adrannau 20 i 24, ac unrhyw ofyniad a osodir o dan adran 25.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru ddiwygioʼr cwricwlwm adran 13 os ydynt yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b).

(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygioʼr cwricwlwm adran 13 hefyd os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.

(4)Os yw Gweinidogion Cymru yn diwygioʼr cwricwlwm adran 13, rhaid iddynt gyhoeddiʼr cwricwlwm diwygiedig.

15Mabwysiadu cwricwlwm

(1)Rhaid i ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir—

(a)mabwysiadu cwricwlwm i blant y darperir yr addysg honno ar eu cyfer (boed y cwricwlwm adran 13 neu gwricwlwm arall y maeʼr darparwr yn ystyried ei fod yn addas), a

(b)cyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm mabwysiedig.

(2)Ond ni chaniateir mabwysiadu cwricwlwm o dan yr adran hon oni bai ei fod yn cydymffurfio âʼr gofynion yn adrannau 20 i 24, ac unrhyw ofyniad a osodir o dan adran 25.

16Adolygu a diwygio cwricwlwm

(1)Rhaid i ddarparwr addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir—

(a)cadwʼr cwricwlwm mabwysiedig o dan adolygiad, a

(b)sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio ag adrannau 20 i 24, ac unrhyw ofyniad a osodir o dan adran 25.

(2)Wrth ystyried a yw’r cwricwlwm mabwysiedig yn parhau i gydymffurfio â’r gofynion y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b), rhaid i’r darparwr roi sylw i wybodaeth sy’n deillio o unrhyw drefniadau asesu a weithredir gan y darparwr o dan reoliadau a wneir o dan adran 56.

(3)Rhaid iʼr darparwr ddiwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig os ywʼr darparwr yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b).

(4)Caiff y darparwr ddiwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig hefyd os yw’r darparwr yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.

(5)Os ywʼr darparwr wedi mabwysiaduʼr cwricwlwm adran 13, a bod Gweinidogion Cymru yn diwygioʼr cwricwlwm hwnnw o dan adran 14, rhaid iʼr darparwr ystyried a ywʼn briodol diwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig o dan is-adran (4) er mwyn adlewyrchuʼr diwygiadau a wnaed o dan adran 14.

(6)Os yw’r darparwr yn diwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig, rhaid iʼr darparwr gyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm diwygiedig.

Darpariaeth atodol

17Pŵer i wneud darpariaeth atodol ynghylch mabwysiadu a diwygio cwricwlwm

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth ynghylch—

(a)camau sydd iʼw cymryd cyn i gwricwlwm gael ei fabwysiadu o dan y Rhan hon (gan gynnwys darpariaeth ynghylch camau sydd iʼw cymryd er mwyn penderfynu a yw cwricwlwm arfaethedig yn addas ar gyfer ei fabwysiadu);

(b)y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid mabwysiadu cwricwlwm o dan y Rhan hon;

(c)amgylchiadau ychwanegol y mae rhaid diwygio cwricwlwm mabwysiedig odanynt.

18Pŵer i wneud darpariaeth atodol ynghylch crynodebau cwricwlwm

Caiff rheoliadau wneud darpariaeth—

(a)ynghylch gwybodaeth sydd iʼw chynnwys mewn crynodeb o gwricwlwm mabwysiedig a gyhoeddir o dan y Rhan hon;

(b)ynghylch cyhoeddi crynodeb o gwricwlwm mabwysiedig (gan gynnwys darpariaeth ynghylch sut y mae rhaid ei gyhoeddi, aʼr dyddiad erbyn pryd y mae rhaid ei gyhoeddi).