C1RHAN 2CWRICWLWM MEWN YSGOLION A GYNHELIR, YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR AC ADDYSG FEITHRIN A GYLLIDIR OND NAS CYNHELIR

Annotations:

PENNOD 1CYNLLUNIO A MABWYSIADU CWRICWLWM

Ysgolion a gynhelir ac ysgolion meithrin a gynhelir

I1I4I7I1010Cynllunio cwricwlwm

1

Rhaid i bennaeth ysgol gynllunio cwricwlwm i ddisgyblion yr ysgol.

2

Rhaid iʼr cwricwlwm hwnnw gydymffurfio âʼr gofynion yn adrannau 20 i 24, ac unrhyw ofyniad a osodir o dan adran 25.

I2I5I8I1111Mabwysiadu cwricwlwm

1

Rhaid i bennaeth a chorff llywodraethu ysgol—

a

mabwysiaduʼr cwricwlwm a gynllunnir o dan adran 10 fel y cwricwlwm i ddisgyblion yr ysgol, a

b

cyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm mabwysiedig.

2

Ond ni chaniateir mabwysiadu cwricwlwm o dan yr adran hon oni bai ei fod yn cydymffurfio âʼr gofynion yn adrannau 20 i 24, ac unrhyw ofyniad a osodir o dan adran 25.

I3I6I9I1212Adolygu a diwygio cwricwlwm

1

Rhaid i bennaeth a chorff llywodraethu ysgol—

a

cadwʼr cwricwlwm mabwysiedig o dan adolygiad, a

b

sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion yn adrannau 20 i 24, ac unrhyw ofyniad a osodir o dan adran 25.

2

Wrth ystyried a ywʼr cwricwlwm mabwysiedig yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b), rhaid iʼr pennaeth aʼr corff llywodraethu roi sylw i wybodaeth syʼn deillio o unrhyw drefniadau asesu a weithredir ganddynt o dan reoliadau a wneir o dan adran 56.

3

Rhaid i bennaeth a chorff llywodraethu ysgol ddiwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig os ydynt yn ystyried ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i gydymffurfio âʼr gofynion y cyfeirir atynt yn is-adran (1)(b).

4

Caiff pennaeth a chorff llywodraethu ysgol ddiwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig hefyd os ydynt yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny ar unrhyw adeg.

5

Os yw pennaeth a chorff llywodraethu ysgol yn diwygioʼr cwricwlwm mabwysiedig, rhaid iddynt gyhoeddi crynodeb oʼr cwricwlwm diwygiedig.