RHAN 1CYSYNIADAU SYLFAENOL A DOGFENNAU ALLWEDDOL

1Cyflwyniad

1

Maeʼr Rhan hon yn nodi cysyniadau sylfaenol syʼn cael effaith mewn perthynas â chwricwlwm ar gyfer unrhyw un oʼr canlynol—

a

disgyblion cofrestredig mewn ysgolion a gynhelir (ac eithrioʼr rheini dros yr oedran ysgol gorfodol) ac mewn ysgolion meithrin a gynhelir;

b

plant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar eu cyfer;

c

plant y darperir addysg ar eu cyfer o dan drefniadau a wneir gan awdurdod lleol yng Nghymru o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56).

2

Maeʼr Rhan hon hefyd yn cynnwys darpariaeth ynghylch dogfennau allweddol syʼn cefnogi cwricwlwm oʼr math hwnnw.

3

Yn y Rhan hon, mae cyfeiriadau at gwricwlwm yn gyfeiriadau at gwricwlwm oʼr math hwnnw; ac mae cyfeiriadau at ddisgyblion a phlant yn gyfeiriadau at y disgyblion aʼr plant y cyfeirir atynt yn is-adran (1).

2Y pedwar diben

1

Pedwar diben cwricwlwm yw—

  • Galluogi disgyblion a phlant i ddatblygu yn ddysgwyr galluog ac uchelgeisiol, sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes;

  • Galluogi disgyblion a phlant i ddatblygu yn gyfranwyr mentrus a chreadigol, sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith;

  • Galluogi disgyblion a phlant i ddatblygu yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus i Gymru aʼr byd;

  • Galluogi disgyblion a phlant i ddatblygu yn unigolion iach a hyderus, sy’n barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o’r gymdeithas.

2

Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y pedwar diben yn gyfeiriadau at y dibenion hynny.

3Y meysydd dysgu a phrofiad

1

Y meysydd dysgu a phrofiad ar gyfer cwricwlwm yw—

  • Y Celfyddydau Mynegiannol

  • Y Dyniaethau

  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg

  • Iechyd a Lles

  • Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

  • Mathemateg a Rhifedd.

2

O fewn y meysydd dysgu a phrofiad, maeʼr canlynol yn elfennau mandadol—

  • Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb

  • Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

  • Cymraeg

  • Saesneg.

3

Ond nid yw Saesneg i’w thrin fel elfen fandadol, at ddibenion y Ddeddf hon, ar gyfer cwricwlwm o fewn is-adran (4).

4

Mae cwricwlwm o fewn yr is-adran hon os yw’n—

a

cwricwlwm i ddisgyblion cofrestredig mewn ysgol nad ydynt wedi cwblhau’r flwyddyn ysgol y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion yn eu dosbarth yn cyrraedd 7 oed ynddi;

b

cwricwlwm ar gyfer addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir;

c

cwricwlwm ar gyfer addysg a ddarperir o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (p. 56) (darpariaeth eithriadol o addysg mewn unedau cyfeirio disgyblion neu mewn mannau eraill: Cymru) i ddisgyblion neu blant nad ydynt wedi cyrraedd 7 oed.

5

Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y meysydd dysgu a phrofiad yn gyfeiriadau at y meysydd a restrir yn is-adran (1).

6

Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at yr elfennau mandadol i’w dehongli yn unol â’r adran hon.

4Y sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol

1

Y sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol ar gyfer cwricwlwm yw—

  • Cymhwysedd Digidol

  • Llythrennedd

  • Rhifedd.

2

Mae cyfeiriadau yn y Ddeddf hon at y sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol yn gyfeiriadau at y sgiliau a restrir yn is-adran (1).

5Pŵer i ddiwygio adrannau 3 a 4

Caiff rheoliadau ddiwygio adrannau 3 a 4.

6Cod yr Hyn syʼn Bwysig

1

Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi cod (“Cod yr Hyn syʼn Bwysig”) syʼn nodi cysyniadau allweddol ar gyfer pob maes dysgu a phrofiad.

2

Nid yw cwricwlwm yn cwmpasu maes dysgu a phrofiad oni bai ei fod yn cwmpasuʼr cysyniadau hynny fel yʼu nodir yng Nghod yr Hyn syʼn Bwysig.

3

Nid yw addysgu a dysgu yn cwmpasu maes dysgu a phrofiad oni bai ei fod yn cwmpasuʼr cysyniadau hynny fel yʼu nodir yng Nghod yr Hyn syʼn Bwysig.

4

O ran Gweinidogion Cymru—

a

rhaid iddynt gadw Cod yr Hyn syʼn Bwysig o dan adolygiad, a

b

cânt ei ddiwygio.

5

Am ddarpariaeth bellach ynghylch Cod yr Hyn syʼn Bwysig, gweler adran 76.

7Y Cod Cynnydd

1

Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi cod (y “Cod Cynnydd”) syʼn nodi’r ffordd y mae cwricwlwm i wneud darpariaeth ar gyfer cynnydd gan ddisgyblion a phlant.

2

Nid yw cwricwlwm yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynnydd priodol oni bai ei fod yn cyd-fynd âʼr Cod Cynnydd.

3

Nid yw addysgu a dysgu yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynnydd priodol oni bai ei fod yn cyd-fynd âʼr Cod Cynnydd.

4

O ran Gweinidogion Cymru—

a

rhaid iddynt gadwʼr Cod Cynnydd o dan adolygiad, a

b

cânt ei ddiwygio.

5

Am ddarpariaeth bellach ynghylch y Cod Cynnydd, gweler adran 76.

8Y Cod ACRh

1

Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi cod (y “Cod ACRh”) syʼn nodi themâu a materion sydd iʼw cwmpasu gan elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb.

2

Nid yw cwricwlwm yn cwmpasu elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb oni bai ei fod yn cyd-fynd âʼr ddarpariaeth yn y Cod ACRh.

3

Nid yw addysgu a dysgu yn cwmpasu elfen fandadol Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb oni bai ei fod yn cyd-fynd âʼr ddarpariaeth yn y Cod ACRh.

4

Am ddarpariaeth bellach ynghylch y Cod ACRh, gweler adran 77.