Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998
237.Mae paragraff 33 yn mewnosod adran 68A ym Mhennod 6 o Ddeddf 1998. Mae’r adran hon yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i ddynodi ysgolion sefydledig neu ysgolion gwirfoddol yng Nghymru yn rhai sydd â chymeriad crefyddol. Yn flaenorol, roedd gan Weinidogion Cymru y pŵer i wneud hynny o dan adran 69(3) o Ddeddf 1998, ond mae’r adran honno bellach yn gymwys o ran Lloegr yn unig.
238.Mae adran 68A o Ddeddf 1998 yn darparu i ddynodiadau presennol a wnaed o dan adran 69(3) o’r Ddeddf honno barhau i gael effaith, ond i gael eu trin fel pe baent wedi eu gwneud o dan yr adran newydd. Mae hyn er mwyn sicrhau eglurder a pharhad ar gyfer yr ysgolion hynny sydd eisoes wedi eu dynodi yn rhai sydd â chymeriad crefyddol.
239.Mae adran 68A(3) o Ddeddf 1998 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n nodi’r weithdrefn ar gyfer dynodi.
240.Mae paragraffau 34 a 35 yn diwygio adran 69 o Ddeddf 1998 (a’r pennawd italig o’i blaen) fel eu bod yn gymwys i Loegr yn unig.
241.Mae paragraff 36 yn diwygio adran 71(1) o Ddeddf 1998 fel bod hawl rhiant i dynnu plentyn yn ôl o AG yn gymwys i Loegr yn unig. Ni wneir unrhyw ddiwygiad i adran 71(1A) ac (1B) o’r Ddeddf honno, sy’n rhoi hawl rhiant i dynnu plentyn o’r oedran ysgol gorfodol yn ôl o addoliad crefyddol a hawl i ddisgyblion ôl-16 i’w tynnu eu hunain yn ôl o addoliad crefyddol.
242.Nid yw’r Ddeddf yn gwneud unrhyw ddiwygiad i adran 71(3) o Ddeddf 1998. O ganlyniad, os yw disgybl yng Nghymru yn cael ei dynnu’n ôl o addoliad crefyddol caniateir i’r disgybl hefyd gael ei dynnu’n ôl o’r ysgol fel y’i disgrifir yn adran 71(3) o’r Ddeddf honno. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu, os yw disgybl yn cael ei dynnu’n ôl o fynychu addoliad crefyddol, ac os yw’r amodau yn adran 71(3)(a) i (c) wedi eu bodloni, y caniateir i’r disgybl hwnnw hefyd gael ei dynnu’n ôl o’r ysgol er mwyn cael AG mewn man arall (yn ddarostyngedig i’r cyfyngiad yn adran 71(4)).
243.Nid yw darparu AG ar gyfer disgybl o dan adran 71(3) o Ddeddf 1998 yn effeithio ar y gofyniad o dan Ran 2 o’r Ddeddf hon i ddarparu addysgu a dysgu ar gyfer y disgybl sy’n cwmpasu CGM. Mae’r gofyniad i ddarparu’r addysgu a dysgu hwnnw yn parhau i fod yn gymwys mewn perthynas â’r disgybl, a rhaid i unrhyw AG a ddarperir ar gyfer y disgybl o dan adran 71(3) o Ddeddf 1998 fod yn ychwanegol at yr addysgu a dysgu a ddarperir mewn cysylltiad ag CGM (yn hytrach nag yn lle hynny).
244.Mae paragraff 36(5) yn mewnosod is-adran (7A) yn adran 71 o Ddeddf 1998. Mae’r is-adran hon yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i sicrhau bod pob disgybl mewn ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig yng Nghymru, i’r graddau y mae’n ymarferol, yn mynychu addoliad crefyddol oni bai ei fod yn cael ei dynnu’n ôl yn unol â dymuniadau rhiant y disgybl neu, yn achos disgybl ôl-16, yn unol â dymuniadau’r disgybl ei hun. Mae’r rheoliadau hyn yn ddarostyngedig i’r weithdrefn negyddol o ganlyniad i’r diwygiad a wneir i adran 138A o Ddeddf 1998 gan baragraff 38 o’r Atodlen hon.
245.Mae paragraff 37 yn diwygio adran 124B o Ddeddf 1998 sy’n gwneud darpariaeth mewn perthynas â dynodi bod i ysgolion annibynnol gymeriad crefyddol. Mae’n mewnosod is-adran newydd (A1) yn adran 124B o Ddeddf 1998, er mwyn cymhwyso is-adrannau 68A(1) a (3) o’r Ddeddf honno i ysgolion annibynnol yn yr un ffordd ag y mae’r is-adrannau hynny yn gymwys i ysgolion gwirfoddol ac ysgolion sefydledig yng Nghymru. Mae hyn yn golygu y caniateir i ysgolion annibynnol gael eu dynodi drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru yn ysgolion annibynnol sydd â chymeriad crefyddol. Ni chymhwysir adran 68A(2) o Ddeddf 1998 i ysgolion annibynnol gan baragraff 37, am fod yr un effaith yn cael ei chyflawni gan adran 124B(2) o Ddeddf 1998 (fel y’i diwygir gan baragraff 37(4)) mewn perthynas â gorchmynion dynodi sy’n dynodi ysgolion annibynnol.
246.Mae paragraffau 12, 29-32, 34, 38-43, 51, 62-65 ac 68-69 yn gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol mewn perthynas â dynodi ysgolion sydd â chymeriad crefyddol. Mae’r rhan fwyaf o’r paragraffau hyn yn diwygio darpariaethau mewn deddfwriaeth sylfaenol er mwyn rhoi cyfeiriadau at y darpariaethau a fewnosodir gan ddarpariaethau cyfatebol yn Atodlen 2 i’r Ddeddf hon yn lle cyfeiriadau at ddarpariaethau sydd wedi eu diddymu neu eu diwygio.
247.Mae paragraff 42 yn gwneud diwygiadau i Atodlen 19 i Ddeddf 1998 fel ei bod yn gymwys i Loegr yn unig.
