Search Legislation

Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

Pennod 2 – Gofynion Cwricwlwm
Adran 19 – Cyflwyniad

36.Mae’r adran hon yn disgrifio cynnwys Pennod 2 ac yn pennu ei bod yn gymwys i gwricwlwm:

  • i ddisgyblion mewn ysgol a gynhelir sydd o dan yr oedran ysgol gorfodol;

  • i ddisgyblion mewn ysgol feithrin a gynhelir;

  • i blant y darperir addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir ar eu cyfer.

37.Mae hyn yn golygu nad yw Pennod 2 yn gymwys i gwricwlwm ar gyfer addysg ac eithrio yn yr ysgol, gan gynnwys UCDau, nac i gwricwlwm i ddisgyblion mewn ysgol a gynhelir sydd dros yr oedran ysgol gorfodol.

Adrannau 20 i 24 – Gofynion cwricwlwm

38.Maeʼr adrannau hyn yn nodiʼr gofynion y mae rhaid i gwricwlwm eu bodloni ar gyfer ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir, neu ar gyfer addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir. Ni chaniateir mabwysiadu cwricwlwm oni bai ei fod yn cydymffurfio â’r gofynion hyn, fel y’u trafodir uchod.

39.Rhaid i gwricwlwm:

  • alluogi disgyblion a phlant i ddatblygu yn y ffyrdd a ddisgrifir yn y pedwar diben (adran 20);

  • darparu ar gyfer cynnydd priodol i ddisgyblion i ddisgyblion a phlant (adran 21);

  • bod yn addas i ddisgyblion a phlant o oedrannau, galluoedd a doniau gwahanol (adran 22);

  • bod yn eang ac yn gytbwys (adran 23);

  • darparu ar gyfer addysgu a dysgu syʼn cwmpasu pob un oʼr meysydd dysgu a phrofiad (gan gynnwys yr elfennau mandadol o fewn y meysydd dysgu a phrofiad) ac sy’n datblygu sgiliau trawsgwricwlaidd mandadol (adran 24).

40.Mae adran 24 hefyd yn gosod gofyniad pellach sy’n gymwys mewn perthynas â chwricwlwm i ddisgyblion dros 14 oed ond o dan yr oedran ysgol gorfodol (blynyddoedd 10 ac 11). Mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r cwricwlwm i’r disgyblion hynny gynnig iddynt ddewis o addysgu a dysgu o fewn pob maes dysgu a phrofiad. Mae’r gofyniad hwn yn adlewyrchu anghenion gwahanol y grŵp oedran hwn. Bydd gan ysgolion yr hyblygrwydd i ddatblygu eu pecyn eu hunain o ddewisiadau i’r disgyblion hyn, a gaiff gynnwys cyrsiau astudio neu ddysgu arall.

41.Mae adran 24(2) yn ei gwneud yn ofynnol i’r ddarpariaeth yn y cwricwlwm ar gyfer addysgu a dysgu sy’n cwmpasu ACRh fod yn briodol yn ddatblygiadol.

42.Mae adran 24(3) yn ei gwneud yn ofynnol i’r ddarpariaeth yn y cwricwlwm ar gyfer addysgu a dysgu sy’n cwmpasu CGM gyd-fynd â Rhan 1 o Atodlen 1. Ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys i gwricwlwm:

  • i ddisgyblion sydd mewn dosbarth y mae’r rhan fwyaf ynddo yn iau na’r oedran ysgol gorfodol ar ddechrau’r flwyddyn ysgol; neu

  • i blant sy’n cael addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir.

Adran 25 – Pŵer i osod gofynion pellach cwricwlwm

43.Mae’r adran hon yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau sy’n gosod gofynion ychwanegol cwricwlwm mewn perthynas â disgyblion 14-16 oed (Blynyddoedd 10 – 11).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources