Search Legislation

Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021

Rhan 1 – Cysyniadau Sylfaenol a Dogfennau Allweddol

Adran 1 – Cyflwyniad

12.Maeʼr adran hon yn disgrifio cynnwys Rhan 1 ac yn pennu’r cwricwla y mae’r Rhan yn gymwys mewn perthynas â hwy.

Adrannau 2 i 4 – Cysyniadau sylfaenol

13.Maeʼr adrannau hyn yn nodi cysyniadau sylfaenol syʼn cael effaith mewn perthynas â chwricwlwm i’r disgyblion a’r plant a ddisgrifir yn adran 1.

14.Mae adran 3 yn rhestru’r meysydd dysgu a phrofiad a’r elfennau mandadol o fewn y meysydd hynny. Yr elfennau mandadol yw Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb (ACRh); Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM); Cymraeg a Saesneg. Ond mae is-adran (3) yn darparu nad yw Saesneg i’w thrin fel elfen fandadol o gwricwlwm:

  • ar gyfer dosbarth y mae’r rhan fwyaf o’r disgyblion ynddo o dan saith oed, neu

  • ar gyfer addysg feithrin a gyllidir ond nas cynhelir, neu

  • i ddisgyblion a phlant o dan saith oed y darperir addysg ar eu cyfer mewn uned cyfeirio disgyblion neu fel arall o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (trafodir hyn ymhellach isod).

Adrannau 6 i 8 - Codau

15.Maeʼr adrannau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r Codau a ganlyn:

  • Cod yr Hyn syʼn Bwysig – sy’n nodi cysyniadau allweddol ar gyfer pob maes dysgu a phrofiad;

  • y Cod Cynnydd – sy’n nodi sut y mae rhaid i gwricwlwm wneud darpariaeth ar gyfer cynnydd gan ddisgyblion a phlant;

  • y Cod ACRh – sy’n nodi themâu a materion y mae rhaid i elfen fandadol ACRh eu cwmpasu.

16.Rhaid i gwricwlwm i’r disgyblion a’r plant a ddisgrifir yn adran 1 gyd-fynd â’r Codau.

17.Rhaid i Weinidogion Cymru gadw Cod yr Hyn syʼn Bwysig aʼr Cod Cynnydd o dan adolygiad a chânt ddiwygioʼr Codau hynny.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources