xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Deddf gan Senedd Cymru i sefydlu fframwaith newydd ar gyfer cwricwlwm i ddisgyblion o’r oedran ysgol gorfodol mewn ysgolion a gynhelir ac unedau cyfeirio disgyblion, i blant o’r oedran ysgol gorfodol y mae addysg fel arall wedi ei threfnu ar eu cyfer gan awdurdodau lleol, i ddisgyblion mewn ysgolion meithrin a gynhelir ac i blant penodol eraill y darperir addysg feithrin ar eu cyfer; i wneud darpariaeth ynghylch cynnydd ac asesu mewn cysylltiad â chwricwlwm i’r disgyblion hynny a’r plant hynny; i wneud darpariaeth ynghylch cwricwlwm i ddisgyblion sy’n hŷn na’r oedran ysgol gorfodol mewn ysgolion a gynhelir; ac at ddibenion cysylltiedig.
[29 Ebrill 2021]
Gan ei fod wedi ei basio gan Senedd Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn: