Rhoi hysbysiad y landlord a thynnu’r hysbysiad yn ôlLL+C

8Tynnu hysbysiad o dan adran 173 ac o dan gymal terfynu’r landlord yn ôlLL+C

(1)Mae Deddf 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 180 (terfynu contract yn dilyn hysbysiad y landlord), yn is-adran (3), yn lle’r geiriau o “, cyn i’r contract ddod i ben” hyd at y diwedd, rhodder

(a)yw’r landlord, cyn i’r contract ddod i ben, ac yn ystod y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad, yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, neu

(b)cyn i’r contract ddod i ben, ac ar ôl y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad—

(i)yw’r landlord yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, a

(ii)nad yw deiliad y contract yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.

(3)Yn adran 201 (terfynu contract o dan gymal terfynu’r landlord), yn is-adran (3), yn lle’r geiriau o “, cyn i’r contract ddod i ben” hyd at y diwedd rhodder

(a)yw’r landlord, cyn i’r contract ddod i ben, ac yn ystod y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad, yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, neu

(b)cyn i’r contract ddod i ben, ac ar ôl y cyfnod o 28 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad—

(i)yw’r landlord yn tynnu’r hysbysiad yn ôl drwy roi hysbysiad pellach i ddeiliad y contract, a

(ii)nad yw deiliad y contract yn gwrthwynebu mewn ysgrifen i’r tynnu’n ôl cyn diwedd cyfnod rhesymol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 8 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)