Pryd y caniateir rhoi hysbysiad y landlord
5Cymal terfynu’r landlord o dan gontract safonol cyfnod penodol: pryd y caniateir rhoi hysbysiad
(1)
Yn adran 196 o Ddeddf 2016 (cyfyngiadau ar ddefnyddio cymal terfynu’r landlord yn ystod pedwar mis cyntaf meddiannaeth)—
(a)
yn is-adran (1), yn lle “bedwar mis” rhodder “18 mis”;
(b)
hepgorer is-adrannau (2) a (3).
(2)
Daw pennawd adran 196 yn “Cyfyngiad ar ddefnyddio cymal terfynu’r landlord tan ar ôl 18 mis cyntaf meddiannaeth”.