Pryd y caniateir rhoi hysbysiad y landlord

4Hysbysiad y landlord o dan gontract safonol cyfnodol: pryd y caniateir rhoi hysbysiad

(1)

Yn adran 175 o Ddeddf 2016 (cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 173 yn ystod pedwar mis cyntaf meddiannaeth)—

(a)

yn is-adran (1), yn lle “bedwar mis” rhodder “chwe mis”;

(b)

yn is-adran (2), yn lle “bedwar mis” rhodder “chwe mis”.

(2)

Daw pennawd adran 175 yn “Cyfyngiad ar adran 173: ni chaniateir rhoi hysbysiad tan ar ôl chwe mis cyntaf meddiannaeth”.