Hysbysiad y landlord: y cyfnodau hysbysu byrraf a ganiateir
2Cymal terfynu’r landlord o dan gontract safonol cyfnod penodol: y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir
(1)
Mae Deddf 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn adran 195 (cymal terfynu’r landlord: y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir)—
(a)
yn is-adran (1), yn lle “dau fis” rhodder “chwe mis”;
(b)
“(2)
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol, ac eithrio contractau safonol cyfnod penodol—
(a)
nad ydynt yn cynnwys cymal terfynu’r landlord, neu
(b)
sydd o fewn Atodlen 8A (pa un a ydynt yn cynnwys cymal terfynu’r landlord ai peidio).”
(3)
“195AY cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir: contractau safonol cyfnod penodol sydd o fewn Atodlen 8A
(1)
Os yw contract safonol cyfnod penodol o fewn Atodlen 8A, ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan gymal terfynu’r landlord fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.
(2)
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnod penodol sydd—
(a)
yn cynnwys cymal terfynu’r landlord, a
(b)
o fewn Atodlen 8A.”