Amrywiol
16Ffi am gopi pellach o ddatganiad ysgrifenedig i fod yn daliad a ganiateir
(1)
Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn Atodlen 1 (taliadau a ganiateir), ar ôl paragraff 10A mewnosoder—
“Taliad am gopi pellach o ddatganiad ysgrifenedig
10B
Mae taliad ffi resymol am ddatganiad ysgrifenedig pellach o gontract meddiannaeth safonol yn daliad a ganiateir.”
(3)
Yn adran 4, ar ôl is-adran (2)(i) mewnosoder—
“(j)
taliadau mewn cysylltiad â chopïau pellach o ddatganiad ysgrifenedig”.