Amrywio contractau safonol cyfnodol
12Cais y landlord i amrywio telerau contract safonol cyfnodol: dileu’r weithdrefn hysbysu ychwanegol
(1)
Mae Deddf 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn adran 125 (amrywio contract)—
(a)
yn is-adran (1)—
(i)
yn lle “127)—” rhodder “127) drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract.”;
(ii)
hepgorer paragraffau (a) a (b);
(b)
yn is-adran (2) hepgorer y geiriau o “; ond nid yw is-adran (1)(b)” hyd at y diwedd.
(3)
Hepgorer adran 126 (amrywio gan y landlord: y weithdrefn hysbysu).
(4)
Yn adran 173 (hysbysiad y landlord), hepgorer is-adran (3).