Darpariaeth bellach ynghylch terfynu contractau safonol cyfnod penodol

11Cyfyngu cymal terfynu’r landlord i gontractau safonol cyfnod penodol penodedig

(1)

Yn adran 194 o Ddeddf 2016 (cymal terfynu’r landlord)—

(a)

yn is-adran (1), ar ôl “Caiff contract safonol cyfnod penodol” mewnosoder “sydd o fewn is-adran (1A)”;

(b)

ar ôl is-adran (1), mewnosoder—

“(1A)

Mae contract safonol cyfnod penodol o fewn yr is-adran hon—

(a)

os yw wedi ei wneud am gyfnod o ddwy flynedd neu ragor, neu

(b)

os yw o fewn Atodlen 9C (pa un a yw wedi ei wneud am gyfnod o ddwy flynedd neu ragor ai peidio).”

(2)

Mae Atodlen 4 yn mewnosod Atodlen 9C newydd i Ddeddf 2016 (ar ôl Atodlen 9B, a fewnosodir gan adran 10) sy’n nodi’r contractau safonol cyfnod penodol a gaiff gynnwys cymal terfynu’r landlord ni waeth pa un a ydynt am gyfnod llai na dwy flynedd ai peidio.