Darpariaeth bellach ynghylch terfynu contractau safonol cyfnod penodol
10Hysbysiad mewn cysylltiad â diwedd cyfnod contractau safonol cyfnod penodol wedi ei gyfyngu i gontractau penodol
(1)
Mae adran 186 o Ddeddf 2016 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol) wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(a)
yn is-adran (1), ar ôl “gontract safonol cyfnod penodol” mewnosoder “sydd o fewn Atodlen 9B”;
(b)
hepgorer is-adran (2);
(c)
yn is-adran (3), yn lle “Yn ddarostyngedig i is-adran (2), o” rhodder “O”;
(d)
hepgorer is-adran (4);
(e)
yn is-adran (8) yn lle’r geiriau o “; mae is-adrannau (2)” hyd at y diwedd, rhodder “sydd o fewn Atodlen 9B.”
(2)
Ym mhennawd adran 186, ar y diwedd mewnosoder “contract sydd o fewn Atodlen 9B”.
(3)
Mae Atodlen 3 yn mewnosod Atodlen 9B newydd i Ddeddf 2016 (ar ôl Atodlen 9A, a fewnosodir gan adran 6), sy’n nodi’r contractau safonol cyfnod penodol y mae adran 186 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddynt.