10Hysbysiad mewn cysylltiad â diwedd cyfnod contractau safonol cyfnod penodol wedi ei gyfyngu i gontractau penodolLL+C
(1)Mae adran 186 o Ddeddf 2016 (hysbysiad y landlord mewn cysylltiad â diwedd cyfnod penodol) wedi ei diwygio fel a ganlyn—
(a)yn is-adran (1), ar ôl “gontract safonol cyfnod penodol” mewnosoder “sydd o fewn Atodlen 9B”;
(b)hepgorer is-adran (2);
(c)yn is-adran (3), yn lle “Yn ddarostyngedig i is-adran (2), o” rhodder “O”;
(d)hepgorer is-adran (4);
(e)yn is-adran (8) yn lle’r geiriau o “; mae is-adrannau (2)” hyd at y diwedd, rhodder “sydd o fewn Atodlen 9B.”
(2)Ym mhennawd adran 186, ar y diwedd mewnosoder “contract sydd o fewn Atodlen 9B”.
(3)Mae Atodlen 3 yn mewnosod Atodlen 9B newydd i Ddeddf 2016 (ar ôl Atodlen 9A, a fewnosodir gan adran 6), sy’n nodi’r contractau safonol cyfnod penodol y mae adran 186 o’r Ddeddf honno yn gymwys iddynt.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 10 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)
