xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Hysbysiad y landlord: y cyfnodau hysbysu byrraf a ganiateirLL+C

1Hysbysiad y landlord o dan gontract safonol cyfnodol: y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateirLL+C

(1)Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (“Deddf 2016”) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 174 (hysbysiadau o dan adran 173: y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir)—

(a)yn is-adran (1), yn lle “dau fis” rhodder “chwe mis”;

(b)yn lle is-adran (2) rhodder—

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol, ac eithrio contractau safonol cyfnodol—

(a)nad ydynt yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract, neu

(b)sydd o fewn Atodlen 8A (pa un a ydynt yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract ai peidio).

(3)Ar ôl adran 174 mewnosoder—

174AY cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir: contractau safonol cyfnodol o fewn Atodlen 8A

(1)Os yw contract safonol cyfnodol o fewn Atodlen 8A, ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 173 fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.

(2)Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol sydd—

(a)yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract, a

(b)o fewn Atodlen 8A.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)