Hysbysiad y landlord: y cyfnodau hysbysu byrraf a ganiateir
1Hysbysiad y landlord o dan gontract safonol cyfnodol: y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir
(1)
Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1) (“Deddf 2016”) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)
Yn adran 174 (hysbysiadau o dan adran 173: y cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir)—
(a)
yn is-adran (1), yn lle “dau fis” rhodder “chwe mis”;
(b)
“(2)
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol, ac eithrio contractau safonol cyfnodol—
(a)
nad ydynt yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract, neu
(b)
sydd o fewn Atodlen 8A (pa un a ydynt yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract ai peidio).”
(3)
“174AY cyfnod hysbysu byrraf a ganiateir: contractau safonol cyfnodol o fewn Atodlen 8A
(1)
Os yw contract safonol cyfnodol o fewn Atodlen 8A, ni chaiff y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 173 fod yn llai na dau fis ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad i ddeiliad y contract.
(2)
Mae’r adran hon yn ddarpariaeth sylfaenol sydd wedi ei hymgorffori fel un o delerau pob contract safonol cyfnodol sydd—
(a)
yn ymgorffori adran 173 fel un o delerau’r contract, a
(b)
o fewn Atodlen 8A.”