ATODLEN 6MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

19

Yn adran 204 (hawliadau meddiant), yn is-adran (1), ym mharagraff (a)—

(a)

yn y testun Saesneg, yn lle “following sections” rhodder “following provisions”;

(b)

hepgorer is-baragraff (i);

(c)

yn is-baragraff (vi), yn lle “yn ystod pedwar mis cyntaf” rhodder “tan ar ôl chwe mis cyntaf”;

(d)

yn is-baragraff (vii), yn lle “176, 177” rhodder “177, 177A”;

(e)

yn is-baragraff (xii), yn lle “yn ystod pedwar mis cyntaf” rhodder “tan ar ôl 18 mis cyntaf”;

(f)

yn is-baragraff (xiii), hepgorer “197,”;

(g)

ar ôl is-baragraff (xiv) (ac o flaen y “neu” sy’n ei ddilyn) mewnosoder—

“(xv)

Atodlen 9A (cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adrannau 173 a 186 ac o dan gymal terfynu’r landlord: torri rhwymedigaethau statudol),”.