ATODLEN 5DIWYGIADAU AMRYWIOL I DDEDDF 2016
Rhagarweiniol
1
Mae Deddf 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
Addasu ac amrywio darpariaethau sylfaenol
2
(1)
Yn adran 20 (ymgorffori ac addasu darpariaethau sylfaenol)—
(a)
yn is-adran (1), ym mharagraff (b), hepgorer “, ym marn deiliad y contract,”;
(b)
yn is-adran (2), ym mharagraff (b), hepgorer “, ym marn deiliad y contract,”.
(2)
Yn adran 108 (cyfyngiad ar amrywio: contractau diogel), yn is-adran (3), ym mharagraff (a)(ii) hepgorer “ym marn deiliad y contract”.
(3)
Yn adran 127 (cyfyngiad ar amrywio: contractau safonol cyfnodol), yn is-adran (3), ym mharagraff (a)(ii) hepgorer “ym marn deiliad y contract”.
(4)
Yn adran 135 (cyfyngiad ar amrywio: contractau safonol cyfnod penodol), yn is-adran (3), ym mharagraff (a)(ii) hepgorer “ym marn deiliad y contract”.
Newidiadau golygyddol i ddatganiad ysgrifenedig
3
Yn adran 33 (newidiadau golygyddol i ddatganiad ysgrifenedig), yn is-adran (2) hepgorer y geiriau o “; er enghraifft” hyd at y diwedd.
Diwygio cyfeiriadau at “y dyddiad perthnasol” yn adrannau 110, 129 a 137
4
Yn is-adran (7) o’r adrannau a ganlyn—
(a)
adran 110 (contractau diogel: methu â darparu datganiad ysgrifenedig etc.),
(b)
adran 129 (contractau safonol cyfnodol: methu â darparu datganiad ysgrifenedig etc.), ac
(c)
adran 137 (contractau safonol cyfnod penodol: methu â darparu datganiad ysgrifenedig etc.),
yn lle’r geiriau o “cyfeiriadau” hyd at y diwedd rhodder “, yn is-adran (3) o’r adrannau hynny, y geiriau “dechrau â’r diwrnod yr amrywiwyd y contract” wedi eu rhoi yn lle’r geiriau o “dechrau” hyd at y diwedd”.
Tenantiaethau diogel sy’n denantiaethau cymdeithas dai i allu dod yn gontractau meddiannaeth
5
(1)
Yn adran 242 (dehongli Pennod 3 o Ran 10), yn y diffiniad o “tenantiaeth ddiogel”, hepgorer y geiriau o “, ond nid yw’n cynnwys tenantiaeth cymdeithas dai” hyd at y diwedd.
(2)
Yn Atodlen 2 (eithriadau i adran 7), ym mharagraff 7 (tenantiaethau a thrwyddedau nad ydynt byth yn gontractau meddiannaeth), hepgorer is-baragraff (3)(d).
Pŵer i wneud darpariaeth sy’n ymwneud â diddymu tenantiaethau sicr, tenantiaethau diogel a thenantiaethau eraill
6
(1)
“239APŵer i wneud darpariaeth ynghylch tenantiaethau a thrwyddedau penodol
(1)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r Ddeddf hon at ddiben—
(a)
darparu nad yw darpariaethau penodol yn gymwys mewn perthynas â thenantiaeth neu drwydded y mae is-adran (2) yn gymwys iddi;
(b)
gwneud darpariaeth newydd nad yw ond yn gymwys i denantiaeth neu drwydded y mae is-adran (2) yn gymwys iddi;
(c)
gwneud darpariaeth mewn perthynas â diwedd cyfnod tenantiaeth hir (o fewn ystyr paragraff 8 o Atodlen 2).
(2)
Mae’r is-adran hon yn gymwys i unrhyw denantiaeth neu drwydded a fyddai, oni bai am adran 239, wedi bod yn denantiaeth neu’n drwydded o’r math a restrir yn is-adran (1) o’r adran honno, neu a fyddai wedi ei thrin fel tenantiaeth neu drwydded o’r math hwnnw;
(3)
Caiff Rheoliadau o dan yr adran hon wneud darpariaeth ynghylch tenantiaethau neu drwyddedau nad ydynt yn gontractau meddiannaeth, ac nad ydynt yn gallu bod yn gontract o’r fath.”
(2)
“(ga)
adran 239A (pŵer i wneud darpariaeth ynghylch tenantiaethau a thrwyddedau penodol),”.
Anheddau sydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr
7
Yn adran 246 (ystyr “annedd”), yn is-adran (1) yn lle “sy’n gyfan gwbl” rhodder “sydd”.
Pŵer i ddiwygio deddfwriaeth a ddeddfir neu a wneir ar ôl i Ddeddf 2016 gael y Cydsyniad Brenhinol
8
Yn adran 255 (pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol etc.), yn is-adran (2) hepgorer y geiriau o “a ddeddfwyd neu a wnaed” hyd at y diwedd.
Dileu cyfeiriadau at lety ar gyfer personau sydd wedi eu dadleoli
9
(1)
Yn Atodlen 3 (contractau meddiannaeth a wneir gyda neu a fabwysiedir gan landlordiaid cymunedol y caniateir iddynt fod yn gontractau safonol), hepgorer paragraff 5.
(2)
Yn Atodlen 9 (contractau safonol nad yw’r cyfyngiadau yn adrannau 175, 186(2) a 196 yn gymwys iddynt), hepgorer paragraff 5.
Diwygiad i Atodlen 3: llety myfyrwyr
10
Yn Atodlen 3 (contractau meddiannaeth a wneir gyda neu a fabwysiedir gan landlordiaid cymunedol y caniateir iddynt fod yn gontractau safonol), ym mharagraff 10(1), ar ôl “addysgol” mewnosoder “yn unig”.
Mân ddiwygiadau i’r testun Cymraeg
11
(1)
Yn adran 61 (methiant i gydymffurfio ag amodau a osodir gan y prif landlord), yn y testun Cymraeg, yn is-adran (5), yn lle “wedi ei wneud yn” rhodder “wedi ei wneud mewn modd nad yw’n”.
(2)
Yn adran 163 (hysbysiad deiliad y contract), yn y testun Cymraeg, yn is-adran (2), yn lle “meddiannaeth” rhodder “diogel”.
(3)
Yn adran 165 (adennill meddiant), yn y testun Cymraeg, yn is-adran (3), yn lle “meddiannaeth” rhodder “diogel”.
(4)
Yn adran 236 (ffurf hysbysiadau, datganiadau a dogfennau eraill), yn y testun Cymraeg, yn is-adran (5), yn lle “wedi ei ddilysu” rhodder “ardystiedig”.
(5)
Yn Atodlen 11 (llety arall addas), yn y testun Cymraeg, ym mharagraff 3, yn is-baragraff (2)(a), yn lle “diogelwch meddiant iddo” rhodder “sicrwydd iddo o ran meddiannaeth”.