Search Legislation

Nodiadau Esboniadol i Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021

Adran 15 – Taliadau gwasanaeth a ganiateir gan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 etc.

73.Mae’r adran hon yn gwneud diwygiadau amrywiol i Ddeddf 2019 sy’n ymwneud â thaliadau gwasanaeth o dan gontractau meddiannaeth safonol penodol. Mae hefyd yn gwneud diwygiadau i Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (Darpariaeth Drosiannol ar gyfer Tenantiaethau Byrddaliadol Sicr) 2019 (O.S. 2019/1151) (“y rheoliadau trosiannol”).

74.Mae Deddf 2019 yn ei gwneud yn drosedd i landlord neu asiant gosod eiddo wneud taliad gwaharddedig yn ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol, neu mewn cysylltiad â chontract o’r fath. Nid yw taliad yn daliad gwaharddedig os yw’n daliad a ganiateir o fewn Atodlen 1 i Ddeddf 2019 (gweler Rhan 2 o Ddeddf 2019 ac Atodlen 1 iddi).

75.Mae darpariaethau Deddf 2019 yn gymwys i gontractau meddiannaeth safonol. Mae’r rheoliadau trosiannol yn cymhwyso’r gofynion hynny i denantiaethau byrddaliadol sicr, hyd nes y caiff Deddf 2016 ei gweithredu. Ar y diwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru, caiff y rhan fwyaf o denantiaethau byrddaliadol sicr eu trosi’n gontractau meddiannaeth safonol (gweler adrannau 239 i 241 o Ddeddf 2016 ac Atodlen 12 iddi).

76.Mae adran 15(2) o’r Ddeddf yn mewnosod paragraff 10A newydd yn Atodlen 1 i Ddeddf 2019. Mae’r diwygiad hwn yn darparu bod tâl gwasanaeth yn daliad a ganiateir at ddibenion Deddf 2019 os yw’n ofynnol o dan gontract meddiannaeth safonol a bod y landlord yn landlord cymunedol, neu os yw’r contract meddiannaeth safonol yn gontract safonol â chymorth (o fewn ystyr adran 143 o Ddeddf 2016).

77.Fodd bynnag, bydd tâl gwasanaeth sy’n ofynnol gan landlord cymunedol o dan gontract meddiannaeth safonol ar gyfer llety nad yw’n llety cymdeithasol (o fewn ystyr paragraff 15 o Atodlen 3 i Ddeddf 2016) yn parhau i fod yn daliad gwaharddedig o dan Ddeddf 2019.

78.Mae adran 15(3) o’r Ddeddf yn gwneud diwygiadau i’r rheoliadau trosiannol fel bod y newid hefyd yn gymwys mewn perthynas â thenantiaethau byrddaliadol sicr. Cyflawnir hyn drwy addasu’r ffordd y caiff y paragraff 10A newydd ei ddarllen mewn perthynas â thenantiaethau byrddaliadol sicr.

79.Effaith y diwygiadau yw bod tâl gwasanaeth yn daliad a ganiateir at ddibenion Deddf 2019 os yw’n ofynnol o dan denantiaeth fyrddaliadol sicr a bod y landlord yn landlord cymunedol, neu os yw’r denantiaeth fyrddaliadol sicr yn ymwneud â llety â chymorth (o fewn yr ystyr a roddir gan is-baragraffau (3A) a (3B) o’r paragraff 10A newydd a addaswyd).

80.Nid yw taliad gwasanaeth sy’n ofynnol o dan denantiaeth fyrddaliadol sicr pan fo’r landlord yn landlord cymunedol yn daliad a ganiateir, fodd bynnag, os nad oedd y rheolau dyrannu (o fewn ystyr paragraff 15 o Atodlen 3 i Ddeddf 2016) yn gymwys i wneud y denantiaeth.

81.Mae adran 15(4) o’r Ddeddf yn datgan bod y diwygiadau a wneir gan adran 15(1), (2) a (3) o’r Ddeddf i’w trin fe pe baent wedi dod i rym ar 1 Medi 2019. Dyma’r dyddiad y daeth Deddf 2019 i rym. Ceir dau eithriad i hyn.

82.O dan y rheoliadau trosiannol, mae Deddf 2019 wedi ei haddasu fel na chaiff hysbysiad o dan adran 21 o Ddeddf Tai 1988, mewn perthynas â thenantiaeth fyrddaliadol sicr, gael ei roi ar adeg pan fo taliad gwaharddedig wedi ei wneud a heb ei ad-dalu.

83.Mae adran 15(4)(a) o’r Ddeddf yn darparu bod unrhyw hysbysiad o’r fath a roddwyd yn groes i’r cyfyngiad hwn cyn i adran 15 o’r Ddeddf ddod i rym yn parhau i gael ei drin fel pe bai wedi ei roi yn groes i’r cyfyngiad hwnnw.

84.O dan adran 22(1) o Ddeddf 2019, mae’n bosibl cael gorchymyn oddi wrth y Llys i adennill taliad gwaharddedig. Mae adran 15(4)(b) o’r Ddeddf yn darparu, os cafodd gorchymyn o’r fath ei wneud cyn i adran 15 o’r Ddeddf ddod i rym, ei fod yn parhau i gael effaith.

85.Mae adran 15(5) a (6) o’r Ddeddf yn gosod cyfyngiad ar roi hysbysiad o dan adran 21 o Ddeddf Tai 1988. Ni chaniateir rhoi hysbysiad o’r fath am gyfnod o chwe mis os yw, yn ystod y cyfnod rhwng 1 Medi 2019 a’r adeg y mae adran 15 o’r Ddeddf yn dod i rym:

(a)

landlord o dan denantiaeth fyrddaliadol sicr wedi ei gwneud yn ofynnol i dâl gwasanaeth gael ei dalu, a

(b)

o ganlyniad i’r ffaith bod y diwygiadau a wneir gan adran 15(1), (2) a (3) o’r Ddeddf yn cael eu trin fel pe baent wedi dod i rym ar 1 Medi 2019, y taliad sy’n ofynnol gan y landlord yn daliad a ganiateir o dan Ddeddf 2019.

86.Mae’r cyfyngiad am gyfnod o chwe mis yn gymwys o’r diwrnod y mae adran 15 o’r Ddeddf yn dod i rym, sef drannoeth y diwrnod y cafodd y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of Senedd Cymru.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources