Adran 12 – Cais y landlord i amrywio telerau contract safonol cyfnodol: dileu’r weithdrefn hysbysu ychwanegol
64.Mae’r adran hon yn dileu adran 126 o Ddeddf 2016 ac yn gwneud diwygiadau canlyniadol i adrannau 125 a 173 o Ddeddf 2016.
65.Mae adran 126 o Ddeddf 2016 yn nodi gweithdrefn sy’n caniatáu i landlord amrywio telerau contract safonol cyfnodol (ac eithrio mewn perthynas â swm y rhent neu gydnabyddiaeth arall) drwy roi hysbysiad. Yn ddarostyngedig i ofynion penodol, roedd adran 126 yn galluogi’r landlord i wneud hawliad meddiant fel pe bai wedi rhoi hysbysiad adran 173 i ddeiliad y contract, os nad oedd deiliad y contract yn cydsynio i’r amrywiad a gynigiwyd gan y landlord.
66.O ganlyniad i’r diwygiad hwn, ni ellir amrywio telerau contract safonol cyfnodol (ac eithrio mewn perthynas â’r rhent neu gydnabyddiaeth arall) ond drwy gytundeb rhwng y landlord a deiliad y contract. (Gweler adrannau 123 a 124 o Ddeddf 2016 ar gyfer y darpariaethau ar amrywio’r rhent neu gydnabyddiaeth arall mewn contract safonol cyfnodol).
