Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Adran 8 – Tynnu hysbysiad landlord o dan adran 173 ac o dan gymal terfynu’r landlord yn ôl

45.Mae adran 8(2) yn diwygio adran 180(3) o Ddeddf 2016, sy’n gwneud darpariaeth ynghylch pryd y mae hysbysiad o dan adran 173 yn peidio â chael effaith os yw’r landlord yn ei dynnu’n ôl. Nid yw adran 180(3) ond yn gymwys os yw’r landlord yn tynnu’r hysbysiad adran 173 yn ôl cyn i’r contract ddod i ben.

46.Er mwyn tynnu hysbysiad adran 173 yn ôl, rhaid i’r landlord roi hysbysiad i’r perwyl hwnnw i ddeiliad y contract, h.y. hysbysiad yn datgan bod yr hysbysiad adran 173 wedi ei dynnu’n ôl.

47.O dan y diwygiadau i adran 180(3) o Ddeddf 2016 a wneir gan adran 8(2) o’r Ddeddf, bydd pa un a fydd yr hysbysiad adran 173 yn peidio â chael effaith yn dibynnu ar bryd y rhoddir yr hysbysiad tynnu’n ôl a pha un a yw deiliad y contract yn gwrthwynebu tynnu’r hysbysiad adran 173 yn ôl.

48.Os yw’r landlord yn tynnu’r hysbysiad adran 173 yn ôl o fewn 28 o ddiwrnodau i’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad adran 173, mae pa un a yw deiliad y contract yn gwrthwynebu ei dynnu’n ôl yn amherthnasol.

49.Os yw’r landlord yn tynnu’r hysbysiad adran 173 yn ôl ar ôl y cyfnod o 28 o ddiwrnodau o’r diwrnod y rhoddwyd yr hysbysiad adran 173, ni fydd yr hysbysiad adran 173 ond yn peidio â chael effaith os nad yw deiliad y contract yn gwrthwynebu ei dynnu’n ôl. Rhaid i’r gwrthwynebiad hwn fod mewn ysgrifen a rhaid ei wneud o fewn cyfnod rhesymol i roi’r hysbysiad tynnu’n ôl i ddeiliad y contract.

50.Mae adran 8(3) yn diwygio adran 201(3) o Ddeddf 2016, sy’n gwneud darpariaeth ynghylch pryd y mae hysbysiad a roddwyd o dan gymal terfynu’r landlord yn peidio â chael effaith os yw’r landlord yn ei dynnu’n ôl. Mae’r diwygiadau a wneir i adran 201(3) yn cyfateb i’r diwygiadau i adran 180(3) a ddisgrifir uchod ac maent yn cael yr un effaith â’r diwygiadau hynny.