xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Pryd y caniateir rhoi hysbysiad y landlordLL+C

4Hysbysiad y landlord o dan gontract safonol cyfnodol: pryd y caniateir rhoi hysbysiadLL+C

(1)Yn adran 175 o Ddeddf 2016 (cyfyngiadau ar roi hysbysiad o dan adran 173 yn ystod pedwar mis cyntaf meddiannaeth)—

(a)yn is-adran (1), yn lle “bedwar mis” rhodder “chwe mis”;

(b)yn is-adran (2), yn lle “bedwar mis” rhodder “chwe mis”.

(2)Daw pennawd adran 175 yn “Cyfyngiad ar adran 173: ni chaniateir rhoi hysbysiad tan ar ôl chwe mis cyntaf meddiannaeth”.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 4 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)

5Cymal terfynu’r landlord o dan gontract safonol cyfnod penodol: pryd y caniateir rhoi hysbysiadLL+C

(1)Yn adran 196 o Ddeddf 2016 (cyfyngiadau ar ddefnyddio cymal terfynu’r landlord yn ystod pedwar mis cyntaf meddiannaeth)—

(a)yn is-adran (1), yn lle “bedwar mis” rhodder “18 mis”;

(b)hepgorer is-adrannau (2) a (3).

(2)Daw pennawd adran 196 yn “Cyfyngiad ar ddefnyddio cymal terfynu’r landlord tan ar ôl 18 mis cyntaf meddiannaeth”.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 5 mewn grym ar 7.6.2021, gweler a. 19(3)