xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Mae Deddf 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2)Yn adran 121 (gwahardd deiliad contract o dan gontract safonol cyfnodol o annedd am gyfnodau penodedig), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Ddeddf hon drwy reoliadau at ddibenion—
(a)darparu nad yw is-adran (1) yn gymwys mewn perthynas â chontractau safonol cyfnodol o ddisgrifiad penodol;
(b)darparu nad yw is-adran (1) ond yn gymwys mewn perthynas â chontractau safonol cyfnodol o ddisgrifiad penodol;
(c)newid yr hyn y caniateir darparu ar ei gyfer neu ei bennu mewn contract safonol cyfnodol o dan is-adran (1) neu (2) (naill ai’n gyffredinol neu mewn perthynas â chontractau safonol cyfnodol o ddisgrifiad penodol), neu osod cyfyngiadau ar hynny;
(d)pennu o dan ba amgylchiadau y caniateir i gontract safonol cyfnodol gynnwys darpariaeth o dan is-adran (1), neu o dan ba amgylchiadau na chaniateir i gontract o’r fath gynnwys darpariaeth o dan is-adran (1), a hynny naill ai’n gyffredinol neu mewn perthynas â chontractau safonol cyfnodol o ddisgrifiad penodol;
(e)gosod gofynion ar landlord mewn perthynas â chynnwys darpariaeth o dan is-adran (1) mewn contract safonol cyfnodol.”
(3)Yn adran 133 (gwahardd deiliad contract o dan gontract safonol cyfnod penodol o annedd am gyfnodau penodol), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—
“(3)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio’r Ddeddf hon drwy reoliadau at ddibenion—
(a)darparu nad yw is-adran (1) yn gymwys mewn perthynas â chontractau safonol cyfnod penodol o ddisgrifiad penodol;
(b)darparu nad yw is-adran (1) ond yn gymwys mewn perthynas â chontractau safonol cyfnod penodol o ddisgrifiad penodol;
(c)newid yr hyn y caniateir darparu ar ei gyfer neu ei bennu mewn contract safonol cyfnod penodol o dan is-adran (1) neu (2) (naill ai’n gyffredinol neu mewn perthynas â chontractau safonol cyfnod penodol o ddisgrifiad penodol), neu osod cyfyngiadau ar hynny;
(d)pennu o dan ba amgylchiadau y caniateir i gontract safonol cyfnod penodol gynnwys darpariaeth o dan is-adran (1), neu o dan ba amgylchiadau na chaniateir i gontract o’r fath gynnwys darpariaeth o dan is-adran (1), a hynny naill ai’n gyffredinol neu mewn perthynas â chontractau safonol cyfnod penodol o ddisgrifiad penodol;
(e)gosod gofynion ar landlord mewn perthynas â chynnwys darpariaeth o dan is-adran (1) mewn contract safonol cyfnod penodol.”