Cyffredinol
17Dehongli
Yn y Ddeddf hon—
(a)
ystyr “contract safonol” yw—
(i)
contract safonol cyfnodol o dan Ddeddf 2016;
(ii)
contract safonol cyfnod penodol o dan y Ddeddf honno,
a gweler adran 8 o Ddeddf 2016 ynghylch hynny;
(b)
ystyr “Deddf 2016” yw Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dccc 1).
18Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Mae Atodlen 6 yn darparu ar gyfer mân ddiwygiadau neu ddiwygiadau canlyniadol i Ddeddf 2016 ac i Ddeddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc.) (Cymru) 2019 (dccc 2).
19Dod i rym
(1)
Daw’r adran hon, adran 15 ac adrannau 17 a 20 i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
(2)
Daw paragraff 28 o Atodlen 6 i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
(3)
Daw gweddill darpariaethau’r Ddeddf hon i rym ddau fis ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
(4)
Caiff gorchymyn o dan is-adran (2)—
(a)
gwneud darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed;
(b)
pennu dyddiau gwahanol at ddibenion gwahanol.
20Enw byr
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021.