Atodol

15Adolygiad: paratoadau ar gyfer cynnal y pôl

(1)

Rhaid i Weinidogion Cymru gynnal adolygiadau o’r paratoadau ar gyfer cynnal y pôl ar gyfer etholiad 2021.

(2)

Rhaid cynnal yr adolygiad cyntaf erbyn 19 Chwefror 2021.

(3)

Rhaid cynnal adolygiadau dilynol o leiaf unwaith ym mhob cyfnod dilynol o 21 diwrnod hyd at gynnal y pôl ar gyfer etholiad 2021.

(4)

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl adolygiad, rhaid i Weinidogion Cymru osod gerbron Senedd Cymru ddatganiad yn crynhoi canlyniad yr adolygiad a nodi a yw’n rhesymol rhagweld unrhyw oedi i etholiad 2021.