Prif ddarpariaethau

11Pŵer i ohirio is-etholiadau awdurdodau lleol

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru, drwy reoliadau a wneir drwy offeryn statudol, ddarparu—

(a)

bod y pôl ar gyfer is-etholiad awdurdod lleol i’w gynnal ar ddyddiad, neu o fewn cyfnod, a bennir yn y rheoliadau;

(b)

bod y pôl ar gyfer is-etholiad awdurdod lleol y byddai’n ofynnol ei gynnal fel arall ar ddyddiad sy’n dod o fewn cyfnod a bennir yn y rheoliadau i’w gynnal yn lle hynny ar ddyddiad diweddarach, neu o fewn cyfnod arall, a bennir yn y rheoliadau.

(2)

Yn yr adran hon, ystyr “is-etholiad awdurdod lleol” yw etholiad—

(a)

pan fo dyddiad y pôl ar gyfer yr etholiad yn dod o fewn y cyfnod sy’n dechrau â 6 Mai 2021 ac sy’n dod i ben â 5 Tachwedd 2021, a

(b)

pan fo’n etholiad i lenwi swydd cynghorydd sy’n digwydd dod yn wag mewn cyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned yng Nghymru.

(3)

Ni chaiff rheoliadau o dan is-adran (1) bennu—

(a)

dyddiad ar ôl 5 Tachwedd 2021, neu

(b)

cyfnod sy’n dod i ben ar ôl 5 Tachwedd 2021.

(4)

Caniateir i’r pŵer i wneud rheoliadau o dan is-adran (1) gael ei arfer fwy nag unwaith mewn cysylltiad ag unrhyw is-etholiad awdurdod lleol.

(5)

Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth drwy gyfeirio at is-etholiadau awdurdodau lleol o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau (er enghraifft, drwy gyfeirio at natur, dyddiad neu leoliad yr etholiadau).

(6)

Mae’r pŵer i wneud rheoliadau o dan is-adran (1) yn cynnwys y pŵer i ddiwygio, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad.

(7)

Mae is-adran (8) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (1) sy’n diwygio, yn addasu neu’n diddymu darpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol.

(8)

Rhaid i offeryn statudol y mae’r is-adran hon yn gymwys iddo gael ei osod gerbron Senedd Cymru ac mae’n peidio â chael effaith pan fo 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y’i gwneir yn dod i ben, oni bai bod Senedd Cymru yn ei gymeradwyo drwy benderfyniad cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.

(9)

Ond—

(a)

os yw Senedd Cymru yn pleidleisio ar gynnig ar gyfer penderfyniad i gymeradwyo offeryn statudol a osodir o dan is-adran (8) cyn i’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn yr is-adran honno ddod i ben, a

(b)

os na chaiff y cynnig ei basio,

mae’r offeryn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y diwrnod y mae’r bleidlais yn digwydd.

(10)

Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o 28 o ddiwrnodau at ddibenion is-adran (8), rhaid diystyru unrhyw gyfnod pan fo Senedd Cymru—

(a)

wedi ei diddymu, neu

(b)

ar doriad am fwy na 4 diwrnod.

(11)

Nid yw is-adrannau (8) ac (9)—

(a)

yn effeithio ar unrhyw beth a wneir drwy ddibynnu ar y rheoliadau cyn iddynt beidio â chael effaith, neu

(b)

yn atal gwneud rheoliadau newydd.

(12)

Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (1) ac nad yw is-adran (8) yn gymwys iddo yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.