Adran 14 – Addasu Gorchymyn 2007
40.Mae adran 13 o Ddeddf 2006 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru i wneud darpariaeth drwy orchymyn ynghylch cynnal etholiadau’r Senedd ac mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (“Gorchymyn 2007”) yn orchymyn a wnaed o dan yr adran honno.
41.Mae’r adran hon yn addasu darpariaethau penodol o Orchymyn 2007 at ddibenion etholiad 2021.
42.Mae is-adran (3) yn addasu erthygl 84(2) o’r Gorchymyn Trefn Cynnal Etholiad a’r pwynt pan fydd person yn dod yn ymgeisydd yn yr etholiad. Mae hyn ynghlwm wrth ddiddymu’r Senedd ar hyn o bryd. Mae adran 3 o’r Ddeddf yn cwtogi cyfnod y diddymiad. Mae is-adran (4) yn datgysylltu’r adeg y daw person yn ymgeisydd o’r adeg y’i diddymwyd. Effaith yr addasiad i erthygl 84(2), at ddibenion Rhan 3 o Orchymyn 2007, yw bod person yn dod yn ymgeisydd 21 o ddiwrnodau cyn 6 Mai (wedi ei gyfrifo gan ddiystyru diwrnodau penodol gan gynnwys diwrnod sy’n ddydd Sadwrn neu’n ddydd Sul neu’n ŵyl banc). Dyma’r dyddiad y byddai’r Senedd wedi ei diddymu ar gyfer yr etholiad cyffredinol arferol ar 6 Mai pe na bai adran 3 o’r Ddeddf wedi gwneud darpariaeth i gwtogi cyfnod y diddymiad. Mae person yn aros yn ymgeisydd at ddibenion Rhan 3 o Orchymyn 2007 (oni chaiff ei ymddiswyddo neu ei ddad-ddewis, er enghraifft) hyd yn oed os caiff yr etholiad ei ohirio yn unol ag adran 6 (neu yn ôl y digwydd, adran 8) o’r Ddeddf hyd at ddyddiad sy’n hwyrach na 6 Mai 2021.
43.Mae is-adran (4) yn gwneud addasiad i baragraff 7 o Atodlen 1 i’r Gorchymyn Trefn Cynnal Etholiad i ganiatáu i geisiadau brys am bleidleisio drwy ddirprwy gael eu gwneud pan fo etholwr neu ddirprwy presennol yn canfod na ellir disgwyl yn rhesymol iddo bleidleisio yn bersonol oherwydd ei bod yn ofynnol iddo gydymffurfio â deddfiad sy’n ymwneud â’r coronafeirws neu ei fod yn dilyn canllawiau sy’n ymwneud â’r coronafeirws a ddyroddir gan Weinidogion Cymru. Ni fydd yn ofynnol tystio’n feddygol ar gyfer cais am bleidlais drwy ddirprwy ar frys o dan yr amgylchiadau hyn.
44.Mae is-adran (5) yn addasu Atodlen 5 (rheolau etholiadau’r Senedd) i’r Gorchymyn Trefn Cynnal Etholiad i gyflwyno hyblygrwydd i’r broses ar gyfer cyflwyno papurau enwebu a chydsyniad ymgeiswyr i enwebu mewn ymateb i’r heriau a gyflwynir gan bandemig y coronafeirws. Mae cyflwyno papurau enwebu a chydsyniad i enwebiadau yn broses corfforol yn hytrach na phroses rithwir. Mae’r addasiad yn rhoi mwy o amser ym mhob diwrnod ar gyfer cyflwyno papurau enwebu (9.00am i 5.00pm yn hytrach na 10.00am i 4.00pm). Yn ogystal, gall person a enwebir gan ymgeisydd at y diben hwnnw gyflwyno papurau enwebu ar ran yr ymgeisydd drwy roi enw a chyfeiriad y person i’r swyddog canlyniadau yn ysgrifenedig neu’n electronig cyn neu ar yr adeg y cyflwynir y papur enwebu.
45.Mae’r addasiad terfynol mewn perthynas â chydsyniad ymgeiswyr i enwebu. O dan y rheolau yn Atodlen 5 i’r Gorchymyn Trefn Cynnal Etholiad, nid oes ffurf ragnodedig ar gyfer cydsyniad i enwebu, ar yr amod ei fod yn ysgrifenedig, yn cael ei gyflwyno i’r Swyddog Canlyniadau yn yr amser penodedig ac wedi ei dystio gan dyst. Pan fo ymgeisydd dramor, gellir ei chyflwyno drwy ffacs neu ddulliau tebyg eraill – ac yn arbennig heb y gofyniad i dyst dystio. Ar gyfer etholiad 2021, mae’r Ddeddf yn addasu’r rheolau yn Atodlen 5 i alluogi ymgeiswyr i gyflwyno eu cydsyniad priodol i enwebu yn yr amser a bennir ar gyfer cyflwyno papurau enwebu naill ai’n ysgrifenedig yn y man i gyflwyno’r papurau hynny neu’n electronig i gyfeiriad electronig at y diben hwnnw. Nid yw’n ofynnol i dyst dystio i gydsyniad ymgeisydd i enwebu.
