Cyffredinol
16Dehongli
Yn y Ddeddf hon—
ystyr “coronafeirws” (“coronavirus”) yw coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS-CoV-2);
ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);
ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” (“primary legislation”) yw—
(a)
Mesur a basiwyd o dan Ran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32);
(b)
Deddf a basiwyd o dan Ran 4 o’r Ddeddf honno;
(c)
Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig;
mae i “etholiad 2021” (“the 2021 election”) yr ystyr a roddir gan adran 1;
ystyr “Gorchymyn 2007” (“the 2007 Order”) yw Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 (O.S. 2007/236);
ystyr “y Llywydd” yw Llywydd Senedd Cymru.
17Pŵer i wneud darpariaeth ganlyniadol a darpariaeth drosiannol etc.
(1)
Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon neu a wneir oddi tani, o ganlyniad i unrhyw ddarpariaeth ynddi neu a wneir oddi tani, neu er mwyn rhoi effaith lawn i unrhyw ddarpariaeth ynddi neu a wneir oddi tani, cânt drwy reoliadau a wneir drwy offeryn statudol wneud—
(a)
darpariaeth atodol, darpariaeth gysylltiedig neu ddarpariaeth ganlyniadol;
(b)
darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed.
(2)
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)—
(a)
gwneud darpariaeth ôl-weithredol mewn perthynas ag is-etholiad awdurdod lleol o fewn yr ystyr a roddir gan adran 11(2), gan gynnwys darpariaeth sy’n cael effaith mewn perthynas ag adegau cyn i’r Ddeddf hon ddod i rym;
(b)
diwygio, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad (gan gynnwys darpariaeth sydd wedi ei chynnwys yn y Ddeddf hon);
(c)
gwneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer ardaloedd gwahanol.
(3)
Mae is-adran (4) yn gymwys i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (1) sy’n diwygio, yn addasu neu’n diddymu darpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn deddfwriaeth sylfaenol.
(4)
Rhaid i offeryn statudol y mae’r is-adran hon yn gymwys iddo gael ei osod gerbron Senedd Cymru ac mae’n peidio â chael effaith pan fo 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y’i gwneir yn dod i ben, oni bai bod Senedd Cymru yn ei gymeradwyo drwy benderfyniad cyn i’r cyfnod hwnnw ddod i ben.
(5)
Ond—
(a)
os yw Senedd Cymru yn pleidleisio ar gynnig ar gyfer penderfyniad i gymeradwyo offeryn statudol a osodir o dan is-adran (4) cyn i’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau a grybwyllir yn yr is-adran honno ddod i ben, a
(b)
os na chaiff y cynnig i basio,
mae’r offeryn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y diwrnod y mae’r bleidlais yn digwydd.
(6)
Wrth gyfrifo unrhyw gyfnod o 28 o ddiwrnodau at ddibenion is-adran (4), rhaid diystyru unrhyw gyfnod pan fo Senedd Cymru—
(a)
wedi ei diddymu, neu
(b)
ar doriad am fwy na 4 diwrnod.
(7)
Nid yw is-adrannau (4) a (5)—
(a)
yn effeithio ar unrhyw beth a wneir drwy ddibynnu ar y rheoliadau cyn iddynt beidio â chael effaith, neu
(b)
yn atal gwneud rheoliadau newydd.
(8)
Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan is-adran (1) ac nad yw is-adran (4) yn gymwys iddo yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.
18Dod i rym
Daw’r Ddeddf hon i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y cydsyniad Brenhinol.
19Enw byr
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Etholiadau Cymru (Coronafeirws) 2021.