RHAN 6PERFFORMIAD PRIF GYNGHORAU A CHYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG A’U LLYWODRAETHU

PENNOD 1PERFFORMIAD, ASESIADAU PERFFORMIAD AC YMYRRAETH: PRIF GYNGHORAU

Arolygiadau arbennig gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

99Pwerau mynediad ac arolygu etc. yr Archwilydd Cyffredinol: rhybudd a thystiolaeth adnabod

(1)

Ni chaiff arolygydd fynd i fangre prif gyngor wrth arfer y pwerau o dan adran 98(1) (pwerau i fynd i fangre cyngor a gwneud pethau at ddibenion arolygiad arbennig)—

(a)

oni fo arolygydd wedi rhoi rhybudd ysgrifenedig i’r cyngor, a

(b)

oni cheir o leiaf dri diwrnod gwaith rhwng y diwrnod y mae’r arolygydd yn rhoi’r rhybudd a’r diwrnod y mae’r arolygydd yn mynd i’r fangre.

(2)

Ni chaiff arolygydd arfer y pwerau o dan adran 98(2) (pwerau i’w gwneud yn ofynnol darparu dogfennau, cyfleusterau a chymorth)—

(a)

oni fo arolygydd wedi rhoi rhybudd ysgrifenedig i’r cyngor, a

(b)

oni cheir o leiaf dri diwrnod gwaith rhwng y diwrnod y mae’r arolygydd yn rhoi’r rhybudd a’r diwrnod y mae’n ofynnol i’r cyngor ddarparu’r ddogfen, y cyfleusterau neu’r cymorth.

(3)

Nid yw’r gofynion yn is-adrannau (1) a (2) yn gymwys os yw arolygydd yn ystyried y byddai rhoi rhybudd i brif gyngor yn niweidio, neu’n debygol o niweidio, arolygiad arbennig o’r cyngor hwnnw.

(4)

Ni chaiff arolygydd arfer y pŵer o dan adran 98(3) (pŵer i’w gwneud yn ofynnol i bersonau ddod gerbron arolygydd)—

(a)

oni fo arolygydd wedi rhoi rhybudd ysgrifenedig i’r person, a

(b)

oni cheir, rhwng y diwrnod y mae’r arolygydd yn rhoi’r rhybudd a’r diwrnod y mae’n ofynnol i’r person ddod gerbron yr arolygydd—

(i)

o leiaf dri diwrnod gwaith os yw’r person yn aelod o brif gyngor neu’n aelod o staff prif gyngor, neu

(ii)

o leiaf saith niwrnod gwaith mewn unrhyw achos arall.

(5)

Caniateir rhoi rhybudd o dan is-adran (1) neu (2) i brif gyngor drwy—

(a)

gadael y rhybudd ym mhrif swyddfa’r cyngor;

(b)

anfon y rhybudd drwy’r post dosbarth cyntaf, neu drwy wasanaeth arall sy’n darparu ar gyfer ei ddanfon yn ddim hwyrach na’r diwrnod gwaith nesaf, i brif swyddfa’r cyngor;

(c)

anfon y rhybudd i unrhyw gyfeiriad e-bost y mae’r cyngor wedi ei bennu ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru at ddibenion cael rhybuddion o dan yr adran hon.

(6)

Caniateir rhoi rhybudd o dan is-adran (4) i aelod o brif gyngor neu aelod o staff prif gyngor drwy—

(a)

gadael y rhybudd ym mhrif swyddfa’r cyngor;

(b)

anfon y rhybudd drwy’r post dosbarth cyntaf, neu drwy wasanaeth arall sy’n darparu ar gyfer ei ddanfon yn ddim hwyrach na’r diwrnod gwaith nesaf, i brif swyddfa’r cyngor;

(c)

rhoi’r rhybudd drwy law’r person;

(d)

gadael y rhybudd ym mhreswylfa hysbys olaf y person;

(e)

anfon y rhybudd drwy’r post dosbarth cyntaf, neu drwy wasanaeth arall sy’n darparu ar gyfer ei ddanfon yn ddim hwyrach na’r diwrnod gwaith nesaf, i breswylfa hysbys olaf y person.

(7)

Caniateir rhoi rhybudd o dan is-adran (4) i berson ac eithrio aelod o brif gyngor neu aelod o staff prif gyngor drwy—

(a)

rhoi’r rhybudd drwy law’r person;

(b)

gadael y rhybudd ym mhreswylfa neu fan busnes hysbys olaf y person;

(c)

anfon y rhybudd drwy’r post dosbarth cyntaf, neu drwy wasanaeth arall sy’n darparu ar gyfer ei ddanfon yn ddim hwyrach na’r diwrnod gwaith nesaf, i breswylfa neu fan busnes hysbys olaf y person.

(8)

Rhaid i’r arolygydd ddangos tystiolaeth ei fod yn arolygydd os yw person y mae’r arolygydd yn ceisio arfer pŵer yn ei gylch o dan adran 98 yn gofyn iddo wneud hynny (ac os nad yw’r arolygydd yn dangos y dystiolaeth honno nid yw’r pŵer yn arferadwy).