RHAN 6LL+CPERFFORMIAD PRIF GYNGHORAU [F1A CHYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG] A’U LLYWODRAETHU

PENNOD 1LL+CPERFFORMIAD, ASESIADAU PERFFORMIAD AC YMYRRAETH[F2: PRIF GYNGHORAU]

Arolygiadau arbennig gan Archwilydd Cyffredinol CymruLL+C

97Dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ymateb i argymhellion yr Archwilydd CyffredinolLL+C

(1)Os yw adroddiad a lunnir gan yr Archwilydd Cyffredinol o dan adran 95(6) yn cynnwys argymhellion o dan adran 95(6)(b) i Weinidogion Cymru gymryd camau, rhaid i Weinidogion Cymru lunio ymateb i’r argymhellion.

(2)Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)cyhoeddi’r ymateb, a

(b)anfon yr ymateb—

(i)at yr Archwilydd Cyffredinol,

(ii)i’r prif gyngor y mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn ymwneud ag ef, a

(iii)at Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.