RHAN 6PERFFORMIAD PRIF GYNGHORAU A CHYD-BWYLLGORAU CORFFOREDIG A’U LLYWODRAETHU

PENNOD 1PERFFORMIAD, ASESIADAU PERFFORMIAD AC YMYRRAETH: PRIF GYNGHORAU

Arolygiadau arbennig gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

97Dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ymateb i argymhellion yr Archwilydd Cyffredinol

(1)

Os yw adroddiad a lunnir gan yr Archwilydd Cyffredinol o dan adran 95(6) yn cynnwys argymhellion o dan adran 95(6)(b) i Weinidogion Cymru gymryd camau, rhaid i Weinidogion Cymru lunio ymateb i’r argymhellion.

(2)

Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol rhaid i Weinidogion Cymru—

(a)

cyhoeddi’r ymateb, a

(b)

anfon yr ymateb—

(i)

at yr Archwilydd Cyffredinol,

(ii)

i’r prif gyngor y mae adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn ymwneud ag ef, a

(iii)

at Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru.